Cymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn Casnewydd
Ym mis Hydref 2023, addawodd y Cyngor wneud ymrwymiad i bobl Casnewydd, trwy gyflwyno cais i Sefydliad Iechyd y Byd am ymuno â'r rhwydwaith byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn.
Wedi'i sefydlu yn 2010, mae Cymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn yn cysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd gyda'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymuned yn lle gwych i heneiddio ynddi.
Diffinnir cymunedau sy'n dda i bobl hŷn gan Sefydliad Iechyd y Byd fel lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cydweithio mewn partneriaeth i’n cefnogi a’n galluogi ni gyd i heneiddio'n dda.
Mae’n nodi wyth nodwedd hanfodol o gymunedau sy'n dda i bobl hŷn, a elwir yn wyth parth. Y rhain yw:
- Mannau awyr agored ac adeiladau
- Trafnidiaeth
- Tai
- Cyfranogiad cymdeithasol
- Parch a chynhwysiant cymdeithasol
- Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud Casnewydd yn ddinas sy’n dda i bobl hŷn, a dod yn aelod o rwydwaith byd-eang WHO o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn.
Am fwy o wybodaeth am Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn, ewch i'r wefan WHO.