Gofal cartref
Nod y gwasanaeth ailalluogi a gofal yw darparu cymorth gofal tymor hir i denantiaid mewn cynlluniau ExtraCare a chymorth gofal ailalluogi tymor byr i drigolion Casnewydd sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain er mwyn eu helpu i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain.
ExtraCare
Mae cymorth â gofal personol (heb gynnwys gofal nyrsio) yn cael ei ddarparu i bobl sy'n byw yng nghynlluniau ExtraCare Wellwood, Willowbrook, Glyn Anwen a Capel Court, sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd y cyngor, gan gynnwys:
- cymorth â gofal personol, cael cawod a gwisgo
- cymorth ag ymataliaeth
- cymorth i baratoi byrbrydau a diod
- cymorth â symudedd
- atgoffa am feddyginiaeth yn unol â pholisi meddyginiaeth Casnewydd
Ailalluogi
Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth gofal tymor byr i bobl er mwyn iddynt gael asesiad o'u hanghenion, efallai ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, ar ôl cwympo neu os bu dirywiad yn eu hiechyd a'u gallu cyffredinol.
Mae'r cymorth yn cael ei adolygu bob wythnos ac os asesir bod angen cymorth tymor hwy, bydd yn cael ei ddarparu gan wasanaeth arall am dâl.
Gall cymorth gael ei roi er mwyn annog pobl i fod yn annibynnol wrth ymolchi a gwisgo, i wella symudedd ac i asesu gallu'r person i baratoi pryd bwyd.
Mae'r gwasanaeth ar gael bob diwrnod o'r flwyddyn rhwng 7am ac 11pm.
Cysylltu
Anfonwch neges e-bost at homecare.dutydesk@newport.gov.uk neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y gwasanaeth ailalluogi a gofal.