Gall plentyn sy'n derbyn gofal gan y Cyngor fyw gyda pherthynas neu ffrind yn hytrach na chael ei roi gyda gofalwyr maeth neu mewn llety preswyl. Gelwir y rhain yn 'ofalwyr teuluol a ffrindiau'.
Beth yw Maethu gan Deulu a Ffrindiau?
Pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan y Cyngor, naill ai'n wirfoddol, gyda chytundeb y rhiant/rhieni, neu o ganlyniad i orchymyn llys, mae gennym ddyletswydd i ystyried rhoi'r plentyn yng ngwasanaethau rhywun sy'n deulu neu'n ffrind sydd eisoes â pherthynas â'r plentyn hwnnw.
Mae'r rhan fwyaf o ofalwyr teuluol a ffrindiau yn neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod, ond gallent hefyd fod yn frodyr a chwiorydd hŷn ac yn ffrindiau teuluol.
Rhaid i ofalwyr teuluol a ffrindiau fod yn ofalwyr maeth cymeradwy, ond byddant yn cael eu cymeradwyo i ofalu am blentyn neu blant penodol.
Mewn argyfwng, gallai aelodau o'r teulu ofalu am blentyn am gyfnod cyfyngedig o dan Reoliad 26 o'r Rheoliadau Maethu, ar yr amod ein bod yn fodlon bod y trefniant hwn yn ddiogel i'r plentyn. Ceir asesiad gwahanol ar gyfer hyn sy'n ystyried a yw'r trefniadau'n addas ac yn ddiogel dan yr amgylchiadau uniongyrchol.
Dod yn Ofalwr Teuluol a Ffrindiau
Er mwyn cael eich cymeradwyo fel gofalwr teuluol a ffrindiau, bydd angen i chi fynd drwy broses asesu. Mae'r broses hon fel arfer yn cymryd tua 12 wythnos a bydd yn cynnwys llenwi ffurflenni, nifer o ymweliadau â'ch cartref a gwiriadau gyda phobl a sefydliadau eraill.
Bydd hyn yn ein galluogi i ddod i'ch adnabod chi a'ch teulu ac ystyried yn llawn a fyddwch yn gallu diwallu holl anghenion y plentyn yn ogystal â chynnig cymorth a allai eich helpu yn eich rôl.
Cwestiynau Cyffredin
Beth fyddwch yn ei ofyn?
Bydd angen i ni eich holi am eich cefndir a'ch plentyndod, perthnasoedd/priodas flaenorol a chyfredol, rhwydweithiau cymorth, profiad fel rhiant a'ch perthynas â theulu'r plentyn.
Bydd angen i chi hefyd roi manylion eich incwm, a gofynnir i chi ddarparu tystlythyrau.
Beth fyddwch chi am ei weld pan fyddwch chi'n ymweld â'm cartref?
Bydd angen i ni edrych ar y llety rydych yn bwriadu ei ddarparu i'r plentyn/plant i wneud yn siŵr ei fod yn addas.
Byddwn yn cynnal archwiliad iechyd a diogelwch o'ch cartref, a fydd yn cynnwys asesiad o unrhyw anifeiliaid anwes.
 phwy arall y bydd angen i chi gysylltu â nhw?
Bydd angen i ni gysylltu â'ch plant, eich partner presennol ac unrhyw gyn-bartneriaid arwyddocaol, tystlythyrau personol ac o bosibl rhai aelodau eraill o'r teulu. Bydd angen i ni hefyd gysylltu â'ch cyflogwr.
Os oes gennych blant yn byw gyda chi, bydd angen i ni gysylltu â'u hysgol, ymwelydd iechyd a / neu unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â nhw.
Pa wiriadau eraill y bydd angen i chi eu gwneud?
Bydd yn rhaid i bawb yn eich cartref sy’n 16 oed neu hŷn gael archwiliad gwasanaeth datgelu a gwahardd manwl sy'n gwirio euogfarnau troseddol.
Gofynnir i chi gwblhau archwiliad meddygol maethu gyda'ch meddyg teulu.
A fyddaf yn cael unrhyw gymorth ariannol?
Gallai gofalwyr teuluol a ffrindiau fod yn gymwys i gael lwfans wythnosol i dalu am y treuliau bob dydd a rheolaidd sy'n gysylltiedig â gofalu am blentyn maeth fel bwyd, dillad, cludiant, gweithgareddau hamdden ac arian poced.
Mae hyn yn dibynnu ar y math o drefniant sydd wedi arwain at y plentyn yn eich gofal. Mae'r union swm yn dibynnu ar oedran y plentyn. Telir y lwfans i'ch cyfrif banc bob pythefnos, wythnos ymlaen llaw ac wythnos o ôl-daliad.
Byddwn yn trafod trefniadau unigol ar gyfer cymorth ariannol gyda chi yn fanylach yn ystod y broses asesu.
Pa gymorth a gewch gennym ni?
Yn ystod y cyfnod asesu cewch gynnig sesiwn hyfforddi gryno a hwylusir gan y tîm teulu a ffrindiau. Prif ddiben y cwrs hwn yw esbonio mwy am eich rôl fel gofalwr maeth, gan gynnwys gwybodaeth gyfreithiol, gweithio gyda'r Cyngor a sut y byddwch yn cefnogi'r plentyn/plant y byddwch yn gofalu amdano/amdanynt.
Pan gewch eich cymeradwyo, bydd disgwyl i chi fynychu cyrsiau hyfforddi eraill, y mae rhai ohonynt wedi'u hanelu at holl ofalwyr maeth y Cyngor a rhai sydd wedi'u hanelu'n benodol at ofalwyr teuluol a ffrindiau.
Cewch gyfle hefyd i fynychu grwpiau cymorth a chwrdd â gofalwyr eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Cewch gefnogaeth gweithiwr cymdeithasol penodedig o'r tîm Teulu a Ffrindiau a fydd yn ymweld â chi'n rheolaidd. Mae hyn yn ychwanegol at weithiwr cymdeithasol y plentyn/plant, a fydd yn gallu trafod anghenion cymorth y plentyn gyda chi a deall pa gymorth y gallai fod ei angen.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu Canllaw Gofal gan Berthynas sydd â llawer o ganllawiau defnyddiol i ofalwyr teuluol a ffrindiau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofidiau neu bryderon, cysylltwch â'r tîm teulu a ffrindiau ar 01633 235317 neu e-bostiwch familyandfriendsteam@newport.gov.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant.
TRA123970 27/08/20