Mabwysiadu gan lysriant
O dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, gall person wneud cais i fabwysiadu ei lysblentyn. Yn flaenorol, bu'n rhaid i'r llysriant a'r rhiant genedigol wneud cais ar y cyd.
Ni ddylai fod angen cyfreithiwr oni bai bod yr achos yn gymhleth neu'n cael ei wrthwynebu.
Gwneud cais am Orchymyn Mabwysiadu
Ysgrifennwch at yr awdurdod lleol lle'r ydych chi'n byw i amlinellu eich bwriad i fabwysiadu'r plant/plentyn.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd lofnodi'r llythyr hwn a rhaid i'r llythyr gynnwys:
- enwau llawn a dyddiad geni pob plentyn sydd i'w fabwysiadu
- cyfeiriad a rhif ffôn yr ymgeisydd
- enw llawn y rhiant genedigol y mae'r plant/plentyn a fydd yn cael eu mabwysiadu yn byw gydag ef/hi
- enw, cyfeiriad a rhif ffôn, os yw'n hysbys, y rhiant genedigol absennol
Pan fydd y llythyr yn dod i law, bydd gweithiwr cymdeithasol yn trefnu ymweld â'r ymgeisydd a'r partner i siarad â nhw a'r plant, cwblhau'r gwiriadau gofynnol ac ysgrifennu'r adroddiad a fydd yn rhoi arweiniad i'r llys.
Mae'r broses hon yn hir a gallai gymryd hyd at flwyddyn cyn i'r llys wrando ar y cais.
Fel arfer, bydd angen i'r rhiant genedigol sy'n absennol roi caniatâd ffurfiol ar gyfer mabwysiadu'r plentyn.
Gall ceisiadau i fabwysiadu gael eu gwneud i Lys Sirol neu Lys Ynadon (Achosion Teuluol). Gallwch gael ffurflenni cais oddi wrth y canlynol:
Llys Sifil a Theuluol Casnewydd (Gwent)
5ed Llawr Tŷ Clarence
Clarence Place
Casnewydd Gwent
Cymru
NP19 7AA
Ffôn: 01633 245040
Mae'r swyddfa ar agor rhwng 10.00 am a 4.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dylid anfon y ffurflen gais wreiddiol a thri llungopi ohoni at swyddfa'r llys, ynghyd â'r canlynol:
- Tystysgrif priodas / tystysgrif partneriaeth sifil yr ymgeisydd (os yw'n berthnasol)
- Tystysgrif geni lawn (fersiwn hir) pob plentyn sydd i'w fabwysiadu
- Ffi'r llys, sef £160 ar hyn o bryd, ar gyfer pob plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd
Dylai sieciau fod yn daladwy i ‘HMCS’ (Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi)
Cysylltu
Cysylltwch â Gwasanaethau Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru (SEWAS) (mae'n agor gwefan newydd) i gael rhagor o wybodaeth.