Cymorth a Hyfforddiant
Os cewch eich asesu fel 'gofalwr Teuluol a Ffrindiau' bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi'n rheolaidd a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn cynnig cymorth a goruchwyliaeth barhaus.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i sicrhau bod cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cael ei gynnal fel y dylai fod a bydd yn helpu i gydgysylltu unrhyw wasanaethau ychwanegol. Mae Foster Newport, ochr yn ochr â'r tîm Teulu a Ffrindiau, yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi i ofalwyr maeth, gan gynnwys Gofalwyr Teuluol a Ffrindiau, grwpiau cymorth sy'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, yn ogystal â grwpiau plant. Bydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn hefyd yn gallu trafod unrhyw anghenion gofal a chymorth ychwanegol gyda chi.
Dysgwch fwy am gymorth i ofalwyr maeth
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofidiau neu bryderon, cysylltwch â'r tîm teulu a ffrindiau ar 01633 235317 neu e-bostiwch familyandfriendsteam@newport.gov.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant.
TRA123970 27/08/20