Ffioedd a Lwfansau
Mae gofalwyr Teulu a Ffrindiau yn cael lwfans wythnosol i dalu treuliau rheolaidd sy'n gysylltiedig â gofalu am blentyn maeth. Mae'r union swm yn dibynnu ar oedran y plentyn. Byddai trefniadau unigol ar gyfer cymorth ariannol yn cael eu trafod yn fanylach gyda chi yn ystod yr asesiadau.
Gall derbyn taliad fel gofalwr maeth effeithio ar eich budd-daliadau neu hawl credyd treth. Gall Cyngor ar Bopeth drafod hyn gyda chi ymhellach.
Os ydych yn derbyn taliad, chi sy'n gyfrifol am hysbysu'r adrannau perthnasol (h.y. Yr Adran Gwaith a Phensiynau) eich bod yn cael unrhyw daliadau.
Ewch i’r dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am ffioedd sy'n gysylltiedig â Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofidiau neu bryderon, cysylltwch â'r tîm teulu a ffrindiau ar 01633 235317 neu e-bostiwch familyandfriendsteam@newport.gov.uk.
Gallwch hefyd gysylltu â gweithiwr cymdeithasol y plentyn/plant.