Canllaw i boblifanc
Mae’r canllawiau canlynol wedi eu datblygu i roi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc sy’n gadael gofal, i ganfod eu lle yn y byd.
Siopa bwyd (pdf)
Budd-dal plant (pdf)
Cymorth addysg (pdf)
Ceflogaeth (pdf)
Cadw'n ddiogel (pdf)
Dodrefnu eich cartref (pdf)
Arian (pdf)
Adnoddau
- Ymwelwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am gyngor ar ofal plant a magu plant
- Mae AGENDA: A young people’s guide to making positive relationships matter yn helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, aflonyddu rhywiol a thrais mewn ysgolion a chymunedau.
Cyngor Ieuenctid Casnewydd

Rydyn ni'n recriwtio nawr! Yma yng Nghyngor Ieuenctid Casnewydd mae gennym nifer o gyfleoedd newydd cyffrous ar gael. Ymunwch â ni a #BeYourBrilliantSelf.
Pwy ydym ni a pham rydym yn gwneud hyn
Rydym yn grŵp o bobl rhwng 11 a 25 oed, sy'n cynrychioli barn a safbwyntiau pobl ifanc.
Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan Gyngor Dinas Casnewydd rydym yn sicrhau bod gan bobl ifanc lais a chymorth i lunio dyfodol y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn gwneud hyn yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a dyletswydd yr awdurdod lleol i ymgysylltu â phobl ifanc. Rhaid i bob ardal yng Nghymru hwyluso Cyngor Ieuenctid i alluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar benderfyniadau lleol, gan roi'r llwyfan i bob person ifanc wneud newid cadarnhaol.
Os hoffech wybod mwy am ein sefydliad sy'n tyfu, cliciwch yma.
Ymunwch â ni!
Os hoffech fod yn aelod, llenwch ein ffurflen manylion personol.
Ar ôl ei chwblhau anfonwch hi i hello@newportyouthcouncil.org.uk a bydd rhywun yn ymateb cyn gynted â phosibl! dilynwch ni ar Twitter ac Instagram
Gwobr Dug Caeredin
Mae’r rhaglen Dug Caeredin ar agor i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed sydd am ddysgu sgiliau newydd, gwirfoddoli, gwneud gweithgarwch corfforol a chwblhau alldaith.
Cwblhewch lefel efydd, arian neu aur ac ennill gwobr drwy gwblhau rhaglen bersonol o weithgareddau mewn pedair adran, neu bump os ydych chi’n anelu am aur.
Ar hyd y ffordd byddwch yn ennill profiad, ffrindiau a doniau a fydd gyda chi am weddill eich oes.
Mae gwobr Dug Caeredin yn cael ei rhedeg yn ysgolion uwchradd Casnewydd, Coleg Gwent, The Share Centre, Stow Hill ac mewn clybiau ieuenctid.
Mae’r lefel efydd yn cymryd chwe mis i’w chwblhau, blwyddyn am arian a 18 mis am aur.
E-bostiwch duke.edinburgh@newport.gov.uk neu ewch i wefan Gwobr Dug Caeredin am fwy o wybodaeth.
TRA91989 05/10/2018