Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - gweithdrefnau arbennig

Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r cynllun trwyddedu gorfodol newydd ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n cynnig tatwio, tyllu corff, aciwbigo ac electrolysis.  

Bydd y cynllun trwyddedu newydd ar gyfer 'gweithdrefnau arbennig' yn cael ei gyflwyno erbyn Ebrill 2020 o dan Ran 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.  

Mae ‘gweithdrefnau arbennig’ yn cynnwys tatwio, lliwio croen lled-barhaol, tyllu cosmetig, aciwbigo ac electrolysis. 

Mae'r prif ofynion yn cynnwys: 

  • rhaid i ymarferwyr gael eu trwyddedu i wneud gweithdrefnau arbennig - bydd yn drosedd cyflawni gweithdrefnau arbennig heb drwydded
  • rhaid cymeradwyo eiddo neu gerbydau busnes - bydd yn drosedd i ymarferydd berfformio unrhyw weithdrefnau o eiddo neu gerbydau nad ydynt wedi'u cymeradwyo
  • bydd trwydded lawn yn para am dair blynedd a bydd trwydded dros dro yn para am saith diwrnod (i ganiatáu ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau).
  • bydd yn rhaid i'r drwydded gael ei harddangos yn yr eiddo lle mae'r weithdrefn arbennig yn digwydd
  • bydd amodau'r drwydded yn cwmpasu cymhwysedd yr ymarferydd, yr eiddo, yr offer a'r arferion a ddefnyddir, y cyngor a roddir cyn ac ar ôl y weithdrefn arbennig a'r cofnodion a gedwir

Cymhwysedd

Bydd cymhwysedd yn ymwneud â rheoli heintiau a chymorth cyntaf yng nghyd-destun y weithdrefn arbennig a ymarferir.

Bydd lefel y cymhwysedd yn ymwneud â lefel y risg sy'n gysylltiedig â'r weithdrefn arbennig, er enghraifft, ni fyddai tyllu llabed clust angen ar yr un lefel cymhwysedd â thyllu corff.

Bydd angen gwybodaeth am ofynion y Ddeddf hefyd.

Sut bydd y system drwyddedu newydd yn gweithio

Bydd angen i ymarferwyr sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd symud i'r system newydd.

Caniateir amser iddynt hwy a'u heiddo gael eu hasesu gan swyddogion y cyngor a'u symud i'r system drwyddedu newydd

Bydd y cyngor yn gyfrifol am orfodi'r gofynion trwyddedu ac am gadw cofrestr gyhoeddus gyfoes.

Bydd mwy o bwerau i orfodi'r ddeddfwriaeth hon na'r rhai sydd yn eu lle ar hyn o bryd, yn ogystal â'r gallu i ddiddymu trwydded ac atal arferion anniogel yn syth.

Bydd y dirwyon yn ddigyfyngiad pan fo erlyniad yn llwyddiannus.

Mae'r Ddeddf yn caniatáu deddfwriaeth bellach i ddiwygio'r rhestr o weithdrefnau arbennig fel bod y ddeddfwriaeth yn aros yn gyfoes. 

Darllenwch am Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017