Browser does not support script.
Bydd angen tynnu asbestos os bydd llwch yn debygol o gael ei ryddhau, os na fydd trwsio neu warchod yr asbestos yn ymarferol neu pan fydd gwaith cynnal a chadw cyffredin yn debygol o darfu ar y deunydd.
Dylai gwaith ar inswleiddio a lagio asbestos gael ei wneud gan gontractwr wedi'i drwyddedu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn unig.
Darllenwch am asbestos a'i waredu'n ddiogel ar wefan yr HSE
Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddeiliaid trwydded roi gwybod i'r awdurdod gorfodi cywir o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau gwaith trwyddedig ar asbestos.
Ewch i wefan yr HSE i gael rhagor o wybodaeth am hysbysu.
Daeth Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 i rym ar 6 Ebrill 2012 ac erbyn hyn, mae gofynion ychwanegol yn berthnasol i rai mathau o waith didrwydded sy'n ymwneud ag asbestos.
Darllenwch am waith didrwydded yn ymwneud ag asbestos, y mae angen hysbysu amdano, ar wefan yr HSE
Dylai gwastraff asbestos gael ei roi mewn bagiau polythen cryf dwbl a'i labelu'n glir gyda label rhagnodedig cyn cael ei gludo i safle gwaredu sydd wedi'i drwyddedu'n briodol.
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am dîm iechyd yr amgylchedd.