Hunanasesu busnes
Mae gwasanaethau amddiffyn y cyhoedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnwys safonau masnach, iechyd anifeiliaid, iechyd yr amgylchedd, trwyddedu a diogelwch cymunedol.
Gofynnir i fusnesau newydd lenwi'r holiadur hunanasesu sy'n cael ei ddefnyddio i roi arweiniad perthnasol i chi gan y cyngor.
Mae'r holiadur yn asesu a ydych chi'n cydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, yn ogystal â chasglu gwybodaeth sy'n gallu cael ei defnyddio gan bob gwasanaeth amddiffyn y cyhoedd.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy'r ffurflen gysylltu ar-lein, anfonwch e-bost at environmental.health@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656.