Tatwio a thyllu cosmetig
Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig tatwio, tyllu cosmetig, aciwbigo, electrolysis neu liwio led-barhaol yng Nghasnewydd fod wedi ei gofrestru gyda Chyngor Dinas Casnewydd.
Newydd!
Gweithdrefnau arbennig – cynllun trwyddedu newydd erbyn Ebrill 2020
Os ydych chi'n gweithio o eiddo, rhaid iddo hefyd fod wedi ei gofrestru, mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.
O 1 Ebrill 2023, y tâl am gais personol neu eiddo yw £118.72.
Y ffi i ychwanegu gweithdrefn at gofrestriad presennol yw £59.36.
Arolygir safleoedd cofrestredig i sicrhau eu bod yn ddiogel a glân, gyda’r risg leiaf o haint.
Tyllu personol – cyfraith newydd o 1 Chwefror 2018
Bellach mae'n anghyfreithlon perfformio tyllu personol (gan gynnwys y tafod, y fron neu’r organau cenhedlu) ar unrhyw un dan 18 oed yng Nghymru.
Darllenwch fwy am Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Eiddo anghofrestredig, ‘crafwyr’ a chwynion
Mae ymarferwyr tatwio anghyfreithlon, anghofrestredig - a elwir hefyd yn 'grafwyr' - a safleoedd anghofrestredig yn peri risg gynyddol i gleientiaid ddatblygu adwaith alergaidd, creithiau a heintiau megis HIV a hepatitis, a gallant arwain at heintiau croen difrifol sydd angen triniaeth feddygol.
Rhowch wybod am unrhyw bryderon ynghylch ymarferwyr tatwio anghyfreithlon neu eiddo anghofrestredig i environmental.health@casnewydd.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656