Grant Busnes Dinas Casnewydd

Business Grants WELSH

Cronfa Cymorth Busnes Cyngor Dinas Casnewydd

Mae rowndiau nesaf Cynllun Grant Busnes a Chynllun Grant Cyflymu Twf Busnes Dinas Casnewydd bellach ar agor.

Mae gan Gronfa Cymorth Busnes Cyngor Dinas Casnewydd y nod cyffredinol o ysgogi datblygiad economaidd yn y ddinas. Mae cymhwysedd ac amodau yn adlewyrchu'r amcanion strategol presennol ar gyfer yr economi leol, fel y nodir yn Strategaeth Twf Economaidd y Cyngor. 

Gall meini prawf y Gronfa amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond mae’n cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau bach a chanolig newydd neu fusnesau bach a chanolig presennol ar ffurf grantiau bach.  Gall grantiau a gynigir i fusnesau cymwys, sy’n diwallu’r meini prawf gofynnol, gefnogi tuag at gostau fel prynu offer. 

Grantiau Busnes Dinas Casnewydd

Mae grantiau o 50% o gostau net hyd at £2,500 ar gael i fusnesau tu allan i ganol y ddinas a grantiau o hyd at £5,000 i'r rhai sydd wedi'u lleoli yng nghanol y ddinas.

Gellir defnyddio'r grant fel arian cyfatebol tuag at hyd at bump eitem offer cyfalaf. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys peirianwaith ac offer, offer TGCh a meddalwedd, a / neu ddatblygu gwefannau a hyfforddiant cysylltiedig.

Ni ellir defnyddio’r grantiau hyn tuag at gyflogau, arwyddion, dodrefn, adnewyddu eiddo, prynu cerbydau, stoc / nwyddau traul, marchnata, hyfforddiant a/neu drwyddedau.

Mae angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth bod ganddynt arian i dalu cyfanswm cost y buddsoddiad, gan fod y grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol.

Sylwer: rhaid gwario'r holl arian erbyn diwedd Mawrth 2025.  Dim ond hyn a hyn o gyllid sydd ar gael, a bydd y cynllun grant yn cau wedi i'r holl gyllid gael ei ddyrannu, a allai fod cyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

Dim ond busnesau sydd â phrosiect buddsoddi cymwys fydd yn cael gwahoddiad i wneud cais. 

E-bostiwch [email protected] yn y lle cyntaf.

Cynllun Grant Cyflymu Twf Busnes

Mae Rhaglen Grantiau Cyflymu Twf Dinas Casnewydd yn cynnwys grantiau gwerth rhwng £25,000 a £75,000, ar gael i fusnesau, ar gyfradd ymyrraeth o 50%, tuag at weithgaredd buddsoddi cyfalaf sydd naill ai'n caniatáu i fusnes sefydledig sy'n newydd i'r rhanbarth sefydlu adeiladau yn Ninas Casnewydd; neu'n caniatáu i fusnes presennol yng Nghasnewydd gyflymu eu huchelgeisiau twf gyda chyfraniad sylweddol tuag at fuddsoddiad.

Os ydych yn credu y byddwch yn gwneud buddsoddiad cymwys yn ystod y 6 wythnos nesaf, a gallwch ddangos y bydd yn arwain at dwf busnes a chreu swyddi pellach, rhowch amlinelliad o'ch prosiect i [email protected]

 

Cadw mewn cysylltiad

Os nad ydych yn derbyn ein e-gylchlythyr ar hyn o bryd (sy'n rhoi diweddariadau rheolaidd am y cymorth sydd ar gael i fusnesau) ond yr hoffech ei dderbyn, cofrestrwch yma i gael eich ychwanegu at ein cronfa ddata.  

Er mwyn atal a chanfod twyll, efallai y rhannwn wybodaeth a roddwyd i ni gyda chyrff cyfrifol eraill at ddibenion archwilio neu i weinyddu arian cyhoeddus. Gweler ein Polisi Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.