Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Mae ceisiadau i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU bellach ar gau.

Ar 3 Mawrth cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS, y bydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (UK CRF) ar gael am flwyddyn. 

Y bwriad yw y caiff hon ei defnyddio i dreialu dulliau newydd o symud oddi wrth Gronfeydd Strwythurol yr UE, er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022/23.  

Bydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn ariannu:

  • Buddsoddi mewn sgiliau
  • Buddsoddi ar gyfer busnesau lleol
  • Buddsoddi mewn cymunedau a lle
  • Cefnogi pobl i gael gwaith

Bydd ceisiadau i Gronfa’r DU yn cael eu cydgysylltu gan awdurdodau lleol ledled y DU. Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ceisiadau am brosiectau yng Nghasnewydd. Disgwylir i'r Cyngor werthuso ceisiadau a gyflwynir iddo erbyn dydd Sul 21 Mai 2021 gan ddefnyddio'r ffurflen gais isod, a llunio rhestr fer cyn cyflwyno ceisiadau’r rhestr fer i'r Weinyddiaeth Tai a Chymunedau a’r Llywodraeth Leol i'w hasesu a'u cymeradwyo gobeithio.  Rhaid i bob Cyngor gyflwyno eu ceisiadau rhestr fer i'r Weinyddiaeth erbyn hanner dydd ar 18 Mehefin 2021. 

Mae'r Llywodraeth wedi mynegi y byddai’n well ganddi geisiadau sy'n gofyn am o leiaf £500,000. Ni chaiff y rhestr fer o geisiadau a flaenoriaethir gan sir fod werth mwy na £3 miliwn. Bydd y Gronfa yn ariannu costau rhedeg yn bennaf (90%) yn hytrach na buddsoddiad cyfalaf.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw sefydliad a gyfansoddwyd yn gyfreithiol ac sy'n darparu gwasanaeth priodol wneud cais am gyllid. Ni ellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau sydd o fudd i un endid (er enghraifft un busnes) – rhaid dangos tystiolaeth o effaith ehangach ar nifer o unigolion, busnesau neu sefydliadau eraill.

Er nad yw Cyngor Dinas Casnewydd wedi'i ddynodi o fewn y 100 lle blaenoriaeth uchaf, gwahoddir ceisiadau o hyd at £3m i Gasnewydd. Bydd UKCRF yn cael ei reoli gan 'awdurdodau arweiniol', Cyngor Dinas Casnewydd yw awdurdod arweiniol Casnewydd.

Dyddiadau allweddol  

  • 21 Ebrill – Lansio gwefan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a galwad agored am geisiadau
  • 21 Mai – Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cyflwyniadau lleol
  • 18 Mehefin – Dyddiad cau cyflwyno cais yr awdurdod arweiniol i'r Llywodraeth
  • Diwedd Gorffennaf – cadarnhau prosiectau llwyddiannus i'w cyflawni 
  • 31 Mawrth 2022 – dyddiad gorffen cyflawni'r prosiect

Proses ymgeisio

Mae ceisiadau i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU bellach ar gau.

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer ymgeiswyr a ffurflenni cais ar y dudalen hon. Mae'n hanfodol bod pob ymgeisydd yn cyfeirio at y Prosbectws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hwn ar gael yn: Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Mae'r Prosbectws yn rhoi gwybodaeth fanwl am amcanion y Gronfa, y mathau o brosiectau y mae'n bwriadu eu cefnogi a sut y mae'n gweithredu, gan gynnwys y meini prawf proses a dethol a ddefnyddir i asesu ceisiadau.

Bydd ceisiadau llwyddiannus Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021/22 yn unig a rhaid i’r gweithgarwch ddod i ben ym mis Mawrth 2022. 

Proses Asesu Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Gwahoddiad i Gyflwyno Ceisiadau Prosiect i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Ffurflen Gais Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

Nodyn technegol ar gyfer ymgeiswyr a darparwyr prosiectau

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD