Rhaglen Creu Lleoedd Canol y Ddinas

Newport VVP - aerial April 2017

Trwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi sicrhau cyllid i gyflwyno rhaglen o brosiectau Creu Lleoedd i wella Canol y Ddinas.

Mae cyllid ar gael i brosiectau i adfywio gofod masnachol gwag, creu llety preswyl ar y llawr uchaf, ac fel arall ysgogi buddsoddiad preifat pellach yng Nghanol y Ddinas.

Mae'r ardal darged ar gyfer y cyllid grant yma o amgylch ardal Stryd Fawr Canol y Ddinas a Phorth y Gogledd a bydd yn rhedeg fel rhaglen tair blynedd ar draws 2022-2025. 

Os ydych naill ai'n berchennog eiddo neu'n lesddeiliad, yn fusnes canol y dref, neu'n ystyried buddsoddi yng Nghanol y Ddinas, gallwch holi ymhellach trwy gysylltu â'r tîm i drafod meini prawf cymhwysedd a’r cyllid sydd ar gael yn fanylach.

Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected].