Llochesi bws

Cyngor Dinas Casnewydd a JC Decaux sy’n gyfrifol am gynnal a chadw llochesi bws yng Nghasnewydd.

Llochesi bws Cyngor Dinas Casnewydd

Bydd y cyngor yn trwsio ac yn glanhau llochesi sydd wedi'u difrodi, gan gynnwys clirio gwydr wedi'i dorri.

 

Rhoi gwybod am loches bws sydd wedi'i difrodi

Ceisiadau eraill

Dylid gwneud ceisiadau am lochesi bws newydd yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Strydlun yn y cyfeiriad isod.

Dylid gwneud ceisiadau o ran adnewyddu llochesi bws yn ysgrifenedig i'r Prif Swyddog Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y cyfeiriad isod.

Dylid gwneud ymholiadau am amseroedd bws anghywir mewn llochesi i'r Prif Swyddog Trafnidiaeth Gyhoeddus, gan nodi lleoliad a rhif y lloches os yn bosibl.

Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Godfrey Road, Casnewydd, NP20 4UR