Gweld adrod diad gwaith ffordd wythnosol Casnewydd (pdf)
Gweld y gwaith ffordd sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghasnewydd
Gweld gwefan Traffig Cymru
Gwaith yr A467 – Ionawr-Mawrth 2023
Mae'r cyngor yn gwneud gwaith ar yr A467, rhwng cylchfan Basaleg a chyffordd Rhodfa'r Siartwyr/Parc y Jiwbilî.
Bydd y gwaith ar y ffordd tua'r gogledd ac yn cynnwys:
· Cwblhau'r gwaith o roi arwyneb newydd ar y ffordd
· Gwaith i wella'r draeniad bob ochr i'r ffordd
· Gweithio i wella'r rhwystrau damwain yn y llain ganol.
Bydd un lôn o'r ffordd tua'r gogledd ar gau drwy’r amser yn ystod y gwaith, a bydd terfyn cyflymder is ar waith. Mae hyn er diogelwch gweithwyr fydd yn gwneud y gwaith.
Bydd y lôn gaeedig yn newid bob yn ail, gan ddibynnu ar ble mae ein timau'n gweithio. Bydd mynediad brys i Forge Mews yn aros ar waith drwy’r amser, yn unol â'r trefniadau presennol.
Bydd lôn ganolog y ffordd tua'r de hefyd ar gau pan fydd ein timau'n gweithio ar y rhwystrau damwain.
Dechreuodd y gwaith ddiwedd Ionawr, a bydd yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth ar y cynharaf. Mae’n bosibl y bydd unrhyw gau lôn gerbydau tua’r de yn cael eu cymryd i ffwrdd cyn diwedd mis Chwefror, unwaith y bydd y gwaith ar y rhwystr diogelwch canolog wedi’i gwblhau.
Yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth, bydd y ffordd tua'r gogledd ar gau yn llwyr dros nos.
Er cymaint yr hoffem leihau'r aflonyddwch i fodurwyr a chymudwyr, nid ydym yn gallu ymgymryd â'r holl waith dros nos oherwydd sensitifrwydd sŵn ein cymdogion.
Nid ydym hefyd yn gallu cael gwared ar y rheolaeth traffig ar ddiwedd pob dydd oherwydd absenoldeb dros dro'r system rhwystrau diogelwch.
Gwelliannau i gyffordd 28 yr M4
Trefn lonydd newydd
Gweld trefn lonydd newydd cylchfan Parc Tredegar Cyffordd 28
Gweld trefn lonydd newydd cylchfan Pont Ebwy
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i ddarllen mwy
Corn Street - gwelliannau i gerddwyr
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ledu’r droedffordd yn Corn Street ac Upper Dock Street i wella mynediad i gerddwyr a gwneud digon o le i ymbellhau’n gymdeithasol yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn cynnwys culhau ffyrdd i wneud lle ychwanegol i gerddwyr. Bydd Corn Street, Upper Dock Street, a Skinner Street bellach yn gweithredu gyda system unffordd i gerbydau. Gweld y map (pdf)
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae mannau parcio i'r anabl ar Upper Dock Street yn cael eu symud i leoliadau eraill a bydd mannau parcio ychwanegol i'r anabl yn cael eu creu yn y meysydd parcio oddi ar y stryd yng nghanol y ddinas fel Emlyn Street a Faulkner Road. Ni fydd y mannau parcio i'r anabl ar Skinner Street yn newid.
Cam nesaf y gwaith hwn yw gosod croesfannau a reolir ar draws Corn Street a Skinner Street, er mwyn sicrhau gwell mynediad i gerddwyr rhwng gorsafoedd bysiau.
Download changes to on-street parking regulations (pdf)
Download temporary on-street waiting and loading restrictions (pdf)
TRA131562 26/01/2021