Parcio ar gyfer busnes
Mae pobl sy'n gweithio yng Nghasnewydd ac y mae angen iddynt ddefnyddio eu cerbyd ar gyfer gwaith yn ystod y dydd yn gallu gwneud cais am drwydded parcio ar gyfer busnes.
Mae trwydded parcio ar gyfer busnes yn caniatáu i ddeiliad y drwydded barcio mewn mannau wedi'u cadw mewn meysydd parcio dynodedig ar gyfer busnes.
Lleoliadau
Mae ardaloedd parcio ar gyfer busnes ar gael yn:
- School Lane
- oddi ar Talbot Lane
- Ivor Street
- Kear Court
- Market
- The Kings
- East Street
Trwyddedau
Gall hyd at 5 cerbyd gael eu cofrestru ar gyfer pob trwydded, ond dim ond un cerbyd sy'n gallu defnyddio'r drwydded i barcio yn ardal y drwydded ar unrhyw adeg
Cysylltwch â ni isod cyn parcio cerbyd nad yw wedi'i gynnwys yn y cynllun
Mae trwyddedau ar gael am dri, chwech, naw neu ddeuddeg mis
Costau
- £260 am 3 mis
- £520 am 6 mis
- £780 am 9 mis
- £1040 am 12 mis
Parcio anghyfreithlon
Cysylltwch â ni isod i drefnu parcio arall am ddim os bydd parcio anghyfreithlon yn golygu nad oes lleoedd ar gael.
Gwneud cais
I weld a oes lleoedd ar gael a gofyn am ffurflen gais
- Anfonwch e-bost: carparks@newport.gov.uk
- Ffoniwch Gyngor Dinas Casnewydd: (01633) 656656
- Anfonwch ffacs: (01633) 213656