Newyddion

Arian ychwanegol ar gael i gefnogi banciau bwyd

Wedi ei bostio ar Thursday 13th January 2022
Social Media Food Bank Graphic WELSH

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i roi cyllid £100,000 i gefnogi sefydliadau sy’n helpu pobl y mae tlodi bwyd yn effeithio arnynt.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: "Rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd ac unigolion ar draws Casnewydd yn parhau i deimlo cryn bwysau ar ôl dwy flynedd heriol iawn, ac mae'r cyfnod ar ôl y Nadolig yn gallu bod yn arbennig o anodd.

"Mae ein banciau bwyd lleol yn darparu gwasanaeth mor bwysig – gan ddarparu cyflenwadau hanfodol i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd bodloni'r anghenion mwyaf sylfaenol.

"Rydym yn gwybod bod y galw yn uchel iawn ac rydym am roi arian mewn gwasanaethau sydd yng nghanol ein cymunedau, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol." 

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu mentrau bwyd cymunedol i ateb y galw cynyddol neu anawsterau dod o hyd i roddion digonol. Gellid ei ddefnyddio i brynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a nwyddau hanfodol; cefnogi gweithrediad effeithiol sefydliadau bwyd cymunedol, er enghraifft costau cyffredinol a threuliau gwirfoddolwyr; neu i brynu offer/cyfleusterau storio newydd ac offer coginio

Mae ceisiadau y cyllid hwn ar agor nawr! Mae manylion a ffurflen gais ar gael yma.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.