Newyddion

Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 19th November 2021
Carers Rights Day Cym_RGB

Eleni, caiff Diwrnod Hawliau Gofalwyr ei gynnal ddydd Iau 25 Tachwedd a bydd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl ac yn cydnabod eu cyfraniad at gymdeithas.

Mae'r 20 mis diwethaf wedi bod yn anodd i lawer o bobl ac mae’r coronafeirws wedi ychwanegu at y pwysau i lawer o ofalwyr.

Bydd cysylltwyr cymunedol y Cyngor yn cynnal sesiynau galw heibio ledled y ddinas - gan gynnig gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl.   Byddant hefyd yn cynnig paned a chacen!

Cynhelir y sesiynau galw heibio yn y pedair canolfan gymdogaeth a Theatr Glan yr Afon.   Mae rhagor o wybodaeth am y sesiynau ar gael yn https://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Carers/Carers-Rights-Day.aspx

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, yr Aelod Cabinet dros wasanaethau cymdeithasol: “Mae'n hanfodol ein bod ni, fel awdurdod lleol, yn parhau i gynnig gwybodaeth i ofalwyr di-dâl, gan sicrhau eu bod yn deall eu hawliau fel gofalwr a'r cymorth y gallen nhw ei gynnig.

Rydym wedi creu cynnig i ofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd sy'n tynnu sylw at y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.” 

Gofalwr yw rhywun o unrhyw oedran sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na allai ymdopi heb ei gymorth.   Gall hyn olygu gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, â salwch iechyd meddwl, problemau cam-drin sylweddau neu y mae angen ychydig mwy o gymorth arno wrth fynd yn hŷn.

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfoeth o gymorth a gwybodaeth ar-lein i ofalwyr gan gynnwys manylion cyswllt tîm y Cysylltwyr Cymunedol.  Ewch i www.newport.gov.uk/gofalwyr

I gael gwybod mwy am hawliau gofalwyr, ewch i https://llyw.cymru/hawliau-gofalwyr 

More Information