Wythnos Gofalwyr
Wythnos Gofalwr: 5-11 Mehefin 2023
Mae dros 6.5 miliwn o bobl yn y DU yn ofalwyr di-dâl ac mae'n debyg y bydd 3 o bob 5 ohonom yn ofalwyr di-dâl ar ryw adeg yn ein bywydau.
Gall fod yn hynod o foddhaus gofalu am anwyliad ac mae gofalwyr di-dâl yn aml yn dweud eu bod ond yn cyflawni rôl gŵr, gwraig, mam, tad, merch, mab, ffrind neu gymydog da.
Mae cysylltwyr cymunedol y cyngor yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd; gan gynnwys rhannu gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau cymorth lleol, yn ogystal â darparu gwybodaeth am fudiadau gwirfoddol a all helpu gofalwyr i ailgysylltu â'u cymuned.
Digwyddiad Gwybodaeth Wythnos Gofalwyr 2023
Dydd Iau 8 Mehefin rhwng 2pm a 5pm
Bydd ein tîm cysylltwyr cymunedol yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Casnewydd.
Dewch draw i bori stondinau a siarad â gweithwyr proffesiynol i gael cyngor a gwybodaeth. Bydd sefydliadau yn cynnwys:
- Sparkle
- ABUHB Engagement team
- Disabled Facilities Grants team
- Care & Repair
- County in the Community (until 4pm)
- University SW Welfare Team
Bydd hefyd gemau a hwyl i’r teulu tan 6:30pm. Bydd bwffe a lluniaeth ar gael hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch community.connectors@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 235650.
Gall gofalwyr hefyd ymuno â'r Rhwydwaith Gofalwyr i dderbyn newyddion a gwybodaeth reolaidd.
Dysgwch ragor am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd