Parhad Busnes

Bwriedir y canllawiau yn yr adran hon fel gwybodaeth gyffredinol am gynllunio ar gyfer argyfyngau. Nid yw'n fwriad iddynt ddisodli canllawiau manwl a chynllunio sy'n benodol i'ch busnes.

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posib 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo Rheoli Parhad Busnes a lle bo'n bosibl darparu cyngor Parhad Busnes i sefydliadau masnachol a gwirfoddol.

Beth yw Parhad Busnes? 

  • Mae parhad busnes yn ymwneud â sicrhau bod eich busnes neu sefydliad yn barod os bydd argyfwng.
  • Sut fyddech chi'n parhau i weithredu? 
  • Ydych chi'n darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cwsmeriaid? 
  • A fyddai'n 'fusnes fel arfer'? 
  • Bydd cael cynllun sydd wedi ei brofi yn helpu i sicrhau bod eich busnes neu sefydliad yn dioddef o’r tarfu lleiaf posibl ac yn y pen draw yn parhau i weithredu. 

Rheoli Parhad Busnes

Parhad Busnes yw sicrhau y gallwch barhau i ddarparu eich gwasanaethau allweddol os bydd tarfu.

Mae Rheoli Parhad Busnes yr un mor bwysig i gwmnïau bach ag y mae i gorfforaethau mawr, os yw eich busnes am oroesi unrhyw darfu. Gall sicrhau bod eich sefydliad yn gallu delio ag argyfwng, yn gallu parhau i weithredu, ac yn gallu ymadfer yn effeithiol wedi hynny. Mae gwneud cynllunio parhad busnes yn rhan o'r modd yr ydych yn cynnal eich busnes yn helpu i'ch paratoi i gynnig "Busnes fel arfer" yn yr amser cyflymaf posibl ar ôl unrhyw darfu mawr. 

Risgiau Parhad Busnes

Bydd cael cynllun sydd wedi ei brofi yn helpu i amddiffyn eich busnes  rhag effeithiau trychineb naturiol neu ddynol, megis:

  • Tân
  • Cyhoeddusrwydd andwyol
  • Colli personél/staff allweddol 
  • Colli neu wrthod mynediad i'ch safle
  • Llifogydd a thywydd garw
  • Methiant cyfrifiadurol neu golli data
  • Dwyn
  • Bygythiad bomiau
  • Methiant technegol neu amgylcheddol
  • Methiant pŵer
  • Halogi cynnyrch
  • Methiant cyflenwyr allweddol.

Gallai unrhyw un o'r rhain arwain at unrhyw un neu fwy o'r canlynol:

  • Methiant llwyr eich busnes
  • Colli incwm
  • Colli enw da a neu golli cwsmeriaid
  • Cosbau ariannol, cyfreithiol a rheoleiddiol
  • Materion adnoddau dynol
  • Effaith ar daliadau yswiriant. 

Gallai eich cynllun parhad busnes gynnwys:

  • Symud i ran arall o'r swyddfa neu'r adeilad
  • Symud i leoliad arall
  • Staff yn ildio eu hardaloedd gwaith
  • Gweithio gartref.

A wyddech chi?

  • Mai 80% o fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiad mawr yn cau o fewn mis
  • Mae 90% o fusnesau sy'n colli data wedi trychineb yn gorfod cau o fewn 2 flynedd
  • Amharwyd ar 58% o sefydliadau'r DU gan ddigwyddiadau Medi 11eg. O'r rhai y tarfwyd arnynt, roedd 12% wedi eu heffeithio'n ddifrifol
  • Mae bron i 1 busnes o bob 5 yn dioddef aflonyddwch mawr bob blwyddyn.

Proses Parhad Busnes

Dyma gysyniadau allweddol y broses RhPB:

  • Deall eich busnes a’ch amcanion busnes allweddol
  • Nodi gweithgareddau allweddol a staff sy'n gweithio yn y meysydd hynny
  • Byddai nodi gwasanaethau / gweithgareddau busnes neu brosesau lle byddai unrhyw fethiant (e.e. cyflenwyr offer, ac ati) yn arwain at darfu mawr ar fusnes
  • Adnabod y bygythiadau posib
  • Asesu pob risg mewnol ac allanol
  • Cyfrifo effaith y risgiau hynny
  • Cynllunio i leihau'r tebygolrwydd neu leihau effaith risgiau /bygythiadau a nodwyd
  • Ymarfer y cynllun a hyfforddi eich staff
  • Archwilio'r canlyniadau ac adolygu'r cynllun yn rheolaidd. 

Cyflawni Prosesau Parhad Busnes 

Blaenoriaethwch drefn  neu ba mor allweddol yw’r gwasanaethau a ddarperir gennych. Dechreuwch yr adolygiad gyda'r gwasanaethau mwyaf allweddol/blaenoriaeth mwyaf a gweithio drwy'r holl wasanaethau sydd angen Cynllun Parhad Busnes. Os nad oes gennych gynlluniau eisoes dechreuwch drwy restru, mewn trefn blaenoriaeth, eich gwasanaethau allweddol. 

1af - Nodi'r angen i gynllunio 

  • Nodwch yr holl wasanaethau allweddol/â blaenoriaeth a'u blaenoriaethu
  • Paratowch restr o'r holl risgiau hysbys. 
  • Plotiwch bob risg a nodwyd ar graff o effaith yn erbyn tebygolrwydd
  • Penderfynwch faint o risg y gallwch ei atal neu ei leihau a phennwch lefel yr awydd am risg y gall eich busnes ei ysgwyddo. Cynlluniwch ar gyfer y gweddill.

2il - Paratoi eich cynllun 

  • Paratowch gynllun generig o gamau gweithredu i'ch galluogi i barhau â phob un o'ch gwasanaethau allweddol / â blaenoriaeth, cynllun sydd hefyd yn manylu ar gamau gweithredu penodol ar gyfer gwahanol fathau o risg a gwahanol wasanaethau.

3ydd - Profwch eich cynllun 

  • Trafodwch eich cynllun gyda'r holl weithwyr perthnasol sy'n ymwneud â gwasanaethau allweddol a nodi unrhyw ofynion hyfforddiant
  • Efelychwch drychineb ddamcaniaethol a phrofi eich cynllun.

Sut all y cyngor helpu? 

  • Gall yr Uned Argyfyngau Sifil gynnig cyngor cyffredinol ar Barhad Busnes
  • Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth am ffynonellau o ran cyngor a/neu gymorth mwy penodol
  • Ni allwn baratoi eich cynlluniau ar eich cyfer gan eich bod yn adnabod eich busnes a'ch prosesau critigol
  • Rydym fel arfer yn cynnig cyngor yn rhad ac am ddim. 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Grŵp Argyfyngau Sifil Awdurdodau Lleol Cymru wedi llunio taflen Parhad Busnes sy'n rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sydd â chyfrifoldeb neu rôl o ran sut caiff eich busnes ei reoli ac mae hi i'w gweld isod.

Os nad oes cynllun gennych, mae gan CLlLC ffurflen hunanasesu ar eu gwefan, na ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w chwblhau. 

Bydd yn eich helpu i amlinellu materion y mae angen i chi eu hystyried gan eich galluogi i baratoi ar gyfer argyfwng a allai amharu ar eich busnes. Os oes cynllun gennych, yna gall eich helpu i nodi unrhyw faterion nad ydych wedi eu hystyried o'r blaen.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth neu gyngor am barhad busnes cysylltwch â’r Uned Argyfyngau Sifil, neu wefannau'r Sefydliad Parhad Busnes, UK resilience a Llywodraeth Cymru.