Dechrau Busnes

Mae tîm gwasanaethau busnes Cyngor Casnewydd yn gyswllt cyntaf gwych ar gyfer cael help i ddechrau eich busnes.

I gael cyngor diduedd yn rhad ac am ddim, anfonwch neges e-bost at [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656

Cyn dechrau eich busnes eich hun, ystyriwch y canlynol:

Cyllid

Mae angen cyllid allanol ar lawer o fusnesau newydd i'w helpu i ddechrau. Gall y tîm gwasanaethau busnes roi cyngor ar y cymorth ariannol sydd ar gael, gan gynnwys grantiau'r cyngor e.e. grantiau cychwyn busnes sy'n cael eu rhedeg mewn partneriaeth ag UK Steel Enterprise.

Rheoliadau

Gall busnesau fod yn ddarostyngedig i nifer o reoliadau, fel cynllunio trefolsafonau masnachdiogelwch bwyd neu drwyddedu.

Os nad ydych yn siwr pa rai allai fod yn berthnasol i chi, gallwn ni eich helpu.

Treth

Mae Cyllid a Thollau EM yn cynnal gweithdai am ddim ar eich cyfrifoldebau o ran treth

Cynllun busnes

Cyn dechrau busnes, mae'n syniad da ysgrifennu cynllun busnes sy'n amlinellu beth fydd eich busnes yn ei wneud, y staff allweddol, cryfderau a gwendidau, eich marchnad, cystadleuaeth, ymchwil i'r farchnad, strategaeth farchnata, y buddsoddiad sy'n ofynnol a rhagolygon ariannol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod busnesau sy'n gwneud hyn llawer yn fwy tebygol o oroesi na busnesau sydd heb gynllun busnes, ac mae'n ddefnyddiol hefyd ar gyfer perswadio darpar fuddsoddwyr i ariannu eich busnes.

Cadw cyfrifon

Mae'n rhaid i chi gynnal cofnod o ochr ariannol eich busnes a chadw rheolaeth arni.

Bydd angen cadw cyfrifon ar gyfer ffurflenni treth ac i baratoi unrhyw gyfrifon. Mae meddalwedd arbenigol ar gael ar gyfer cadw cyfrifon neu gallech ddefnyddio cyfrifydd.

Eiddo

Rydym ni'n cadw manylion safleoedd masnachol sydd ar gael. Dywedwch wrthym am y math o safle rydych chi'n chwilio amdano, a'i faint, a byddwn yn anfon manylion atoch am safleoedd sy'n cyfateb i'ch gofynion.

Strwythur busnes

Gall eich busnes newydd gael ei sefydlu ar ffurf unig fasnachwr, partneriaeth, cwmni cyfyngedig, ccc neu fenter gymdeithasol.

I gael gwybodaeth am gymorth penodol sydd ar gael i fentrau cymdeithasol, anfonwch neges e-bost atom ar [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656.

Gwybodaeth gysylltiedig

Mae Busnes Cymru wedi datblygu adnodd dysgu ar-lein newydd i fusnesau newydd, o'r enw'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)

Cysylltwch

E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656.