Gweminarau a Gweithdai

 

Mae nifer o sefydliadau’n cynnig gweminarau, gweithdai ar-lein a sesiynau blasu i helpu a chefnogi busnesau.

 

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Cymorth digidol i fusnesau Cymru  

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yno i'ch helpu chi a busnesau eraill yng Nghymru i ddefnyddio systemau digidol a'ch helpu i sicrhau'r gwerthiant gorau posibl. 

Mae eu rhaglen am ddim yn cynnwys gweminarau am ddim a chymorth un-i-un wedi'i deilwra, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddefnyddio cymorth digidol fel pâr arall o ddwylo pan fyddwch yn brysur, yn ogystal â sicrhau bod eich cwsmeriaid yn gwybod ble i ddod o hyd i chi a sut i brynu gennych.  

P'un a ydych am symud ar-lein, gwneud llwyddiant o'r 'busnes fel arfer' newydd neu gynnal eich presenoldeb brand yn lleol, cofrestrwch heddiw.  

  • Cofrestrwch: i gael defnyddio eu rhaglen lawn am gymorth am ddim 
  • Gweminarau am ddim: ymunwch â digwyddiadau rhyngweithiol ar gyfer atebion cyflym ac enillion yn y dyfodol  
  • Cymorth un-i-un: trowch yr hyn rydych chi'n ei ddysgu yn weithredoedd sy'n arwain at ganlyniadau 

Cofrestrwch i gael cymorth digidol i greu arian, cynyddu adnoddau ac arbed amser

 

Busnes Cymru

Crynodeb o’r Digwyddiad:

Nod gweminar 'Dechrau a Rhedeg Eich Busnes Eich Hun' Busnes Cymru yw cefnogi unrhyw un sy'n ystyried dechrau menter newydd, gan ddarparu dealltwriaeth o'r prif agweddau ar droi syniad busnes neu hobi yn fusnes hyfyw.

Mae'r weminar yn ymdrin â phynciau gan gynnwys datblygu syniad busnes, dod o hyd i gyllid, cynllunio busnes, prisio, marchnata, a rhai o oblygiadau ariannol rhedeg eich busnes eich hun.

Fe'i cyflwynir gan gynghorwyr profiadol ac mae'n rhoi cyfle i ofyn cwestiynau drwy sgwrs fyw. Bydd unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y weminar hefyd yn gallu cael cymorth 1-2-1 ychwanegol gyda chynghorydd.

Mae'r weminar hon hefyd yn addas ar gyfer unrhyw un sydd wedi bod yn rhedeg eu busnes ers tro, ond a hoffai sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl faterion y mae angen iddynt eu hystyried.

Cysylltwch â Busnes Cymru i drefnu lle ar un o'r cyrsiau hyn.  Byddwch yn derbyn gwybodaeth ymlaen llaw, gan gynnwys copi o'r llyfr gwaith sydd ei angen yn ystod y cyflwyniad.  Bydd swyddogion perthynas cleientiaid yn gallu eich cynorthwyo i lenwi'r llyfr gwaith cyn mynychu'r weminar.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Cynghorwyr Busnesau Newydd lleol: Melanie Phipps [email protected] neu Alun Wade [email protected].   Gallwch hefyd drefnu drwy ffonio eu prif rif, 01656 868500.

Mae cyrsiau ychwanegol hefyd ar gael, ewch i Busnes Cymru i gael rhagor o fanylion.

 

Siambr Fasnach De Cymru

Gwybodaeth am y Gweminarau Siambr Fasnach De Cymru sydd ar gael.  

 

Prifysgol De Cymru

Mae amserlen digwyddiadau Prifysgol De Cymru wedi'i chynllunio i alluogi twf busnes, arddangos cydweithrediadau a ariennir a chefnogi heriau busnes.  Dysgwch fwy yma. 

 

Cymorth arall

Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC)

Gall busnesau gael mynediad am ddim i setiau sgiliau arbenigol ar gyfer recriwtio graddedigion medrus o fewn:-           

 Ewch i’r wefan