Glan Llyn

Glan_Llyn_October_2014 (1)

Mae Glan Llyn yn brosiect 20 mlynedd i drawsnewid hen safle Gwaith Dur Llanwern, sy’n 600 erw o faint, yn gymuned gynaliadwy gwerth £1bn.

Mae datblygwr y safle, St Modwen, yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i greu 6,000 o swyddi newydd ac adeiladu 4,000 o gartrefi newydd yng Nglan Llyn. 

Bydd y gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys dwy ysgol gynradd, ardaloedd cymunedol, siopau a chaffis, yn ogystal â pharc a chyfleusterau chwaraeon. 

Bydd datblygiad y Parc Busnes Celtaidd, sydd werth £1.5m ac yn cynnwys gofod swyddfa, diwydiannol a warws yng nghanol Glan Llyn, yn helpu i ddod â swyddi newydd i’r ardal.

Agorodd y cawr manwerthu ar-lein Amazon orsaf ddosbarthu yn y safle yn ddiweddar, gan gyflogi mwy na 50 o bobl.

Bydd y prosiect hefyd yn integreiddio cysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys ffyrdd, llwybrau beicio, gwasanaethau bws a llwybrau cerdded.

Mae gorsaf drenau newydd wedi’i chynnig yn y datblygiad, yn ogystal â gwasanaeth parcio a theithio 100. 

TRA101664 3/5/2019