St Paul's Walk
Crëwyd St Paul’s Walk yn rhan o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid lwyddiannus y ddinas.
Mae gyferbyn â’r hen Eglwys St Paul ar Commerical Street ac yn agos i’r Adeiladau Cenedlaethol, ac mae wedi cael ei weddnewid yn rhan o un o brojectau LlLlLlA.
I greu St Paul's Walk, gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd gaffael a dymchwel eiddo gwag ar Commercial Street a fu’n segur ers blynyddoedd lawer.
Defnyddiwyd y gofod i greu cyswllt newydd i gerddwyr rhwng Kingsway a phen isaf Commercial Street, gan helpu i ddod â phobl i’r rhan hon o ganol y ddinas a rhoi hwb i fasnachu.
Yn ogystal â bod yn ffordd gerdded, mae St Paul's Walk yn fan cyhoeddus wedi’i dirweddu lle mae modd cynnal digwyddiadau.
Project Mosäig
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cais llwyddiannus am arian ar gyfer project mosäig i wella St Paul's Walk, i ddenu ymwelwyr a gwella ymhellach ansawdd yr amgylchedd.

TRA89397 10/08/2018