City Deal
Nod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) yw creu swyddi a hybu llewyrch economaidd ar draws de-ddwyrain Cymru drwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, gwella sgiliau, helpu pobl i gael gwaith a rhoi'r cymorth i fusnesau sydd ei angen arnynt i dyfu.
Cafodd y ddêl £1.2 biliwn ei chymeradwyodd ffurfiol gan ddeg awdurdod partner Casnewydd, Blaenau Gwent, Pen-Y-Bont Ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg ar 1 Mawrth 2017.
Mae’n cynnwys cyllid o £734m ar gyfer Metro De Cymru, y mae mwy na £500m ohono yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a £125m gan Lywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfraniad o £375m, ac mae’r deg awdurdod lleol wedi cytuno i ymrwymo i fenthyca cyfanswm cyfunol o £120 miliwn.
Daw Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ag arweinwyr awdurdodau lleol ynghyd i wneud penderfyniadau ar y cyd, rhannu adnoddau a datblygu partneriaethau â busnesau.
Archwiliad Cyfrifon Blwyddyn Ariannol 2018/19 (pdf)
Rhagor o wybodaeth
Ewch i wefan Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Darllenwch am Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar Gov.UK
TRA91097 19/09/2018