Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid o’r gwasanaethau cyhoeddus, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill i gefnogi cymuned lluoedd arfog y ddinas.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl yn sicrhau y dylai’r rhai sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maen nhw’n eu gwasanaethu gyda'u bywydau.
Cefnogir Cyfamod y Lluoedd Arfog ar lefel leol drwy gytundeb partneriaeth rhwng asiantaethau statudol, milwrol a gwirfoddol sy'n cydweithio i anrhydeddu a gweithredu Cyfamod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog. Llofnododd Cyngor Dinas Casnewydd Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn 2016.
Dysgu mwy am gyfamod y Lluoedd Arfog
Lawrlwytho Newyddion Cyfamod y Lluoedd Arfog Cymru 2023 (pdf)
Lawrlwytho Newyddion Cyfamod y Lluoedd Arfog Cymru 2022 (pdf)
Cyngor a chymorth - Cyfeiriadur o wasanaethau sydd ar gael i Gyn-filwyr.
Cymorth Cyflogaeth
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o fod yn gyflogwr AUR o dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn. Rydym yn gwarantu cyfweliadau i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog, yn amodol ar ymgeiswyr yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Mae gennym hefyd Bolisi Milwyr Wrth Gefn sy'n darparu cefnogaeth i aelodau'r Lluoedd Wrth Gefn neu Oedolion sy’n Wirfoddolwyr gyda’r Llu Cadetiaid, gan gynnwys amser i ffwrdd â thâl ar gyfer hyfforddiant. Cofiwch nodi eich bod yn rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog pan fyddwch yn gwneud cais.
Gall ein Tîm Gwaith a Sgiliau hefyd helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd 16+ oed sy'n ddi-waith ac sy'n dymuno dod o hyd i waith neu gefnogaeth gyda chyrsiau hyfforddi am ddim yn gysylltiedig â chyflogaeth. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch call 07581 011462 neu e-bostiwch cfwplus@newport.gov.uk.
Mae'r elusennau sy'n cefnogi Cyn-filwyr sy'n ceisio cyflogaeth yn cynnwys:
- Partneriaeth Pontio Gyrfa (CTP) - cyrsiau hyfforddi, recriwtio a chyngor gyrfa i ymadawyr gwasanaeth sy'n cael eu hadsefydlu.
- Llogi Arwr - yn cefnogi ymadawyr gwasanaeth a chyn-filwyr i drosglwyddo'n llwyddiannus i fywyd sifil.
- Canolfan Byd Gwaith - yn anelu at helpu pobl o oedran gweithio i ddod o hyd i waith yn y DU.
- RFEA (elusen cyflogaeth y lluoedd arfog) - yn darparu cefnogaeth, swyddi a chyfleoedd hyfforddi gydol oes, i bobl sy'n gadael gwasanaeth, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a'u teuluoedd.
- The Poppy Factory - Yn cefnogi cyn-filwyr, yn ddynion a menywod, sydd â heriau iechyd i mewn i gyflogaeth.
Addysg
Gellir gweld Polisi Derbyn Ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer 2023/24 yma. Er y dylech ddarllen y polisi yn llawn, gwneir cyfeiriadau penodol at blant y Lluoedd Arfog ym mharagraffau 3.27, 3.42, 3.67 a 3.68.
Trwy brosiect a ariennir gan grant sy'n cael ei redeg gan SSCE Cymru, mae ein Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol yn gweithio gydag ysgolion yng Nghasnewydd i helpu i gefnogi plant y Lluoedd Arfog drwy gydol eu haddysg.
Cymorth Tai
Os ydych wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig neu'n gadael lluoedd arfog y DU, efallai y byddwch am gofrestru ar gyfer tŷ cymdeithasol yng Nghasnewydd.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am lety rhent preifat ac efallai y bydd cymorth ar gael i'ch helpu i gynnal tenantiaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo, ewch i Opsiynau Cartrefi Casnewydd neu Cymorth i Brynu ar gyfer y Lluoedd Arfog.
Mae rhagor o wybodaeth am gymorth yn gysylltiedig â thai yma.
Darllenwch ein gwybodaeth am berchentyaeth cost isel.
Gallwn eich helpu os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.
Rhwydweithiau Cymunedol y Lluoedd Arfog Casnewydd
Gofal iechyd
- Mae GIG cyn-filwyr Cymru - yn wasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau, ac sy'n cael anawsterau iechyd meddwl yn gysylltiedig yn benodol â'u gwasanaeth milwrol.
- Mae cyngor a chymorth - yn gyfeiriadur cymorth sy'n cynnwys elusennau sy'n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol Cyn-filwyr.
Gostyngiadau i'r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr – Cerdyn Braint Amddiffyn
Disgownt amddiffyn yw'r gwasanaeth disgownt MoD swyddogol ar gyfer y lluoedd arfog, cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog. Mae'r cerdyn braint amddiffyn yn cynnig gostyngiadau ar-lein ac ar y stryd fawr.
Nofio am ddim i'r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
Gall aelodau o'r lluoedd arfog a chyn-filwyr nofio am ddim drwy'r flwyddyn mewn unrhyw sesiwn nofio i’r cyhoedd ac i oedolion yn unig mewn unrhyw bwll Casnewydd Fyw I fod yn gymwys i nofio am ddim, rhaid i chi feddu ar Gerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn.