Rhaglen Datgarboneiddio Casnewydd Sero Net

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi lansio rhaglen newydd i helpu busnesau a grwpiau cymunedol i ddatgarboneiddio.

Mae Rhaglen Datgarboneiddio Casnewydd Sero-Net yn darparu cyngor arbed ynni am ddim a chyllid grant i helpu sefydliadau lleol i leihau eu costau ynni a'u hallyriadau carbon.

Mae'r cyngor rhad ac am ddim a'r grantiau arian cyfatebol hyd at £30,000 ar gael i fusnesau lleol a grwpiau cymunedol gydag adeiladau yn ardal Casnewydd.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i helpu sefydliadau i:

  • sefydlu allyriadau carbon sylfaenol
  • gweithredu cynlluniau lleihau allyriadau
  • mynd ati i ariannu prosiectau sy'n cyd-fynd ag amcanion cynaliadwyedd.

Nod y rhaglen yw helpu i ysgogi twf yn economi carbon isel Casnewydd a chefnogi taith y ddinas i sero net erbyn 2050 trwy fuddsoddi mewn busnesau lleol a grwpiau cymunedol, pobl a sgiliau.

Bydd y rhaglen yn cynnig y canlynol:

  • Cyngor technegol AM DDIM - cymorth technegol ar y safle i archwilio eich syniadau prosiect a'ch cyfleoedd carbon isel.
  • Cynllun datgarboneiddio AM DDIM, gan nodi cyfleoedd i sefydliadau leihau allyriadau carbon drwy fesurau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy
  • Y gronfa, i ddarparu grantiau tuag at weithredu prosiectau. Mae grantiau ar gael hyd at 50 y cant o gyfanswm costau cymwys y prosiect, hyd at uchafswm grant o £30,000.

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, e-bostiwch [email protected].


Ariannwyd y rhaglen gan Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU. 

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.

Nod y gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus