Newid yn yr hinsawdd yw mater diffiniol ein cenhedlaeth. Rhaid inni i gyd weithredu'n awr i ddiogelu ein planed, ein dinas, a'n cymunedau.
Mae ein cynllun sefydliadol ar y newid yn yr hinsawdd yn nodi'r hyn yr ydym yn mynd i'w wneud fel cyngor i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol parhaus.
Mae'n nodi ein cynllun i leihau ein hallyriadau carbon a defnyddio ein gwasanaethau i helpu i gefnogi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ledled y ddinas.
Gallwch lawrlwytho ein cynllun llawn isod.
Cyngor Dinas Casnewydd - Cynllun Newid Hinsawdd Sefydliadol 2022-2027 (pdf).
Fersiwn gryno (pdf)
Cefndir
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd o'n cwmpas ym mhob man.
Mae angen dybryd i bob un ohonom ddod at ein gilydd i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd byd-eang ac i greu byd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Fel cyngor, yr ydym eisoes wedi dechrau'n dda, gan leihau ein hallyriadau uniongyrchol a chynhyrchu ynni 29 y cant dros y tair blynedd o 2018-2021.
Er hynny, rydym yn gwybod bod angen i ni wneud mwy, ac mae ein cynllun yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y pum mlynedd nesaf hyd at 2027.
Datblygwyd y cynllun mewn ymgynghoriad â phartneriaid, rhanddeiliaid, busnesau a phobl Casnewydd. Cyhoeddwyd cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2021.
Gallwch lawrlwytho ein dogfen adolygu ymgynghori isod, sy'n nodi sut y gwnaethom ystyried eich adborth a'i ddefnyddio i lunio elfennau o'r cynllun terfynol.
Argyfwng hinsawdd ac ecolegol
Pasiodd y cyngor gynnig ym mis Tachwedd 2021 yn datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol.
Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd am:
Ddatgan argyfwng ecolegol a hinsawdd.
· Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau â'r gwaith da yr ydym wedi'i ddechrau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon i garbon sero-net erbyn 2030.
· Adolygu'r gwasanaethau a ddarparwn i sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas i fod yn un garbon sero-net ac i addasu i’r newid yn yr hinsawdd erbyn 2050.
· Datblygu cynllun Newid yn yr Hinsawdd Sefydliadol clir, mewn ymgynghoriad â dinasyddion, dros y pum mlynedd nesaf a fydd yn nodi'r camau y byddwn angen eu cymryd i gyflawni hyn.
· Datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol ledled y ddinas, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i ddatblygu atebion arloesol i ddatgarboneiddio gwres, trydan a thrafnidiaeth leol a gwireddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol.
· Gweithio gyda phartneriaid Casnewydd yn Un a'r cyhoedd i ddatblygu strategaeth hinsawdd ledled y ddinas i alluogi di-garbon net ledled y ddinas ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd erbyn 2050 ac integreiddio arfer ecolegol gorau ym mhob maes o weithgarwch y cyngor, gan ganiatáu i ni arwain y ddinas drwy esiampl.
· Rhoi cyhoeddusrwydd i'r datganiad hwn o argyfwng hinsawdd ac ecolegol i drigolion a busnesau yng Nghasnewydd a chefnogi a dylanwadu ar gamau gweithredu gan bartneriaid drwy bartneriaethau a chymorth a galluogi dinasyddion i leihau eu hallyriadau carbon eu hunain.