Cynllun Ynni Ardal Leol

Ym mis Tachwedd 2021, datganodd Cyngor Dinas Casnewydd Argyfwng Ecolegol a Hinsawdd, gan gydnabod mai newid hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n diffinio ein cenhedlaeth.

Fel rhan o'r datganiad hwnnw, fe wnaethom ymrwymo i ddatblygu cynllun i drawsnewid sut mae'r ddinas yn defnyddio ac yn cynhyrchu ynni. 

Fe wnaethom ddadansoddi ystod o senarios ar gyfer sut y gallai system ynni lanach edrych. O'r dadansoddiad hwn, fe wnaethom gynhyrchu cynllun ynni ardal leol ar gyfer Casnewydd.

Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth ar gyfer sut y gallai system ynni ddi-garbon edrych yn 2050.

Mae'n nodi meysydd blaenoriaeth a chamau gweithredu dybryd i ni eu cymryd yn y meysydd hyn, yn ogystal â map llwybr ar gyfer y tymor hwy i adeiladu dinas sy'n cael ei phweru gan ffynonellau ynni gwyrddach, glanach.

Lawrlwythwch gynllun ynni ardal leol Casnewydd.

Cafodd y cynllun ei baratoi gan Arup ac Afallen ar ran Cyngor Dinas Casnewydd, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.