Derbyniadau, Trochi a Thrafnidiaeth

Derbyniadau a Throchi 

Mae rhai teuluoedd yn dewis addysg Gymraeg i'w plant yn ddiweddarach yn eu bywydau ysgol, ac rydym yma i helpu fel bod sgiliau iaith y plant hyn yn debyg i blant eraill o'u hoedran. 

Rydym yn cynnig hyn drwy ddarpariaeth drochi bwrpasol sydd ar gael yn y sectorau cynradd ac uwchradd.  

Mae ceisiadau derbyn i ysgolion Cymraeg yn llwyddiannus lle bynnag y bo modd. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am dderbyniadau ar ein tudalen derbyniadau i ysgolion.

Gallwch ddewis trosglwyddo eich plentyn o un ysgol i'r llall ar unrhyw adeg o'u haddysg, ac mae hyn yn cynnwys eu trosglwyddo o ysgol Saesneg ei chyfrwng i ysgol Gymraeg.

Lle bo hyn yn gofyn am newid yn y ddarpariaeth ieithyddol, bydd y Tîm Derbyn i Ysgolion yn eich cynghori i gysylltu â Phennaeth yr ysgol berthnasol er mwyn gallu asesu unrhyw anghenion cymorth trochi. 

Byddant hefyd yn cysylltu â'r Pennaeth perthnasol i'w hysbysu bod cais wedi dod i law a'i fod yn yr arfaeth. 

Unwaith y byddwch yn cadarnhau eich bod yn dymuno bwrw ymlaen, bydd prosesu'n mynd rhagddo fel arfer a lle yn cael ei gynnig yn yr hyn a fydd yn dod yn ysgol "letyol". 

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal uned drochi gynradd Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, gan gefnogi pob disgybl o oedran cynradd sy'n paratoi ar gyfer addysg Gymraeg o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6. Mae'r ysgol yn cynnal ac yn darparu'r gwasanaeth ar ran yr ysgolion cynradd o fewn y clwstwr Cymraeg. 

Mae cymorth i ddisgyblion oedran uwchradd ar gael yn uniongyrchol drwy Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. 

O fis Medi 2024, bydd yr uned drochi cynradd yn trosglwyddo o Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli.  
Bydd disgyblion oed cynradd yn treulio eu tymor cyntaf yn yr uned drochi yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, mewn trefniant y cytunwyd arno rhwng Prifathrawon eu hysgol a enwir ac Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon. 

Fodd bynnag, bydd trefniant allgymorth ar waith sy'n galluogi'r disgybl i fynychu ei ysgol a enwir ar ddiwrnod penodol bob wythnos fel ei fod yn gallu treulio amser yn ei ysgol newydd gyda'i gyfoedion. 

Bydd y trefniant allgymorth hwn hefyd yn galluogi staff i hwyluso gwiriadau cynnydd ar ddisgyblion trochi blaenorol. Mae disgyblion oedran uwchradd yn defnyddio cyfleusterau trochi gyda phontio graddol i ddosbarthiadau prif ffrwd wrth i drosglwyddiad iaith fynd rhagddo.   

Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol

Darperir trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion oed cynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael iddynt, ac ar gyfer disgyblion oed uwchradd (hyd at ddiwedd Blwyddyn 11) sy’n byw 3 milltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael iddynt.

Os asesir bod disgybl oedran cynradd yn byw dwy filltir neu fwy o Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, bydd yn derbyn cludiant am ddim i'r uned drochi.  Fodd bynnag, efallai na fydd y trefniant hwn yn berthnasol ar y diwrnod allgymorth dynodedig.