Fel rhan o fenter Cymraeg 2050, mae Llywodraeth Cymru am gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.
Er mwyn cyrraedd y targed hwn mae'r cyngor am gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd y cyngor (2022-2032) wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cwmpasu'r cyfnod o fis Medi 2022 tan fis Awst 2032.
Mae'r cynllun 10 mlynedd yn uchelgeisiol ac yn dangos ymrwymiad Casnewydd i ehangu ac ymgorffori defnydd o'r Gymraeg ar draws y ddinas.
Gweld y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 (pdf)
Gweld y fersiwn fyrrach o'r cynllun sydd hefyd yn addas i blant a phobl ifanc (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Mae'n ofyniad bod pob awdurdod lleol yn gweithredu Fforwm Addysg Gymraeg.
Mae Fforwm Addysg Gymraeg yn creu sianel gyfathrebu ffurfiol rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, ei hysgolion a gynhelir a sefydliadau partner eraill sydd â diddordeb mewn addysg Gymraeg yng Nghasnewydd ar faterion sy’n ymwneud â’r Strategaeth Addysg Gymraeg a’r CSCA.
Yn benodol, bydd y Fforwm Addysg Gymraeg yn:
- Gweithredu fel grŵp ymgynghorol ar gyfer datblygu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA);
- Monitro’r gwaith o weithredu’r CSCA;
- Monitro’r addysg Gymraeg a ddarperir a gweithredu fel grŵp ymgynghorol ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, a;
- Rhoi adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru sy’n disgrifio cynnydd o ran gweithredu targedau’r CSCA yn erbyn yr amserlen a gymeradwywyd.
Y Prif Swyddog Addysg sy’n cadeirio'r Fforwm gydag aelodaeth yn cynnwys:
Sefydlwyd is-grŵp ar wahân o'r Fforwm hefyd i ystyried yn benodol sut y gellir hyrwyddo addysg Gymraeg a sut y gellir ysgogi'r galw ledled Casnewydd. Mae'r Fforwm Addysg Gymraeg a'r is-grŵp yma'n gweithio ar y cyd i gyrraedd y targedau a amlinellir yn y CSCA a Strategaeth y Gymraeg y Cyngor.
Bydd Grŵp Cynllunio Lleoedd Ysgol Casnewydd, sy'n cynnwys trawstoriad o swyddogion Addysg, Cyllid, Canolfan Wybodaeth Casnewydd, Partneriaethau, Polisi a Chynllunio gyda chydweithwyr o Newport Norse, yn cyfarfod bob hanner tymor i ystyried darpariaeth lleoedd ysgol ar draws y ddinas, gan gynnwys y galw ac argaeledd lleoedd mewn ysgolion Cymraeg.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo, drwy'r CSCA, i gwmpasu'r angen am ddarpariaeth Gymraeg o ran pob adeilad ysgol newydd a gaiff ei chodi yn y dyfodol, a bydd pob ymarfer cwmpasu yn y dyfodol yn cael ei ymestyn i'r tu hwnt i ardal uniongyrchol unrhyw ddatblygiad tai newydd.