Cynnal gwasanaeth i godi baner heddwch y Gymanwlad yn y Ganolfan Ddinesig
Wedi ei bostio ar Monday 13th March 2023
Heddiw, nododd Cyngor Dinas Casnewydd Ŵyl y Gymanwlad gyda gwasanaeth i godi baneri ar dir y Ganolfan Ddinesig.
Arweiniwyd y seremoni gan y Parchedig Keith Beardmore gyda chyfranogiad gan ysgol gynradd Maendy a Gwent Music.
Cyflwynodd crïwr tref broclamasiwn y Gymanwlad cyn i faner heddwch y Gymanwlad gael ei chodi gan y Dirprwy Arglwydd Raglaw, Edward Watts MBE DL.
Roedd y seremoni hefyd yn nodi degfed pen-blwydd o arwyddo Siarter y Gymanwlad gan ein diweddar Frenhines Elizabeth II.
Mae'r Siarter yn nodi'r gwerthoedd a'r dyheadau sy'n uno 56 o wledydd annibynnol y Gymanwlad yn Affrica, Asia, yr Amerig, Ewrop a'r Môr Tawel a'r 2.5 biliwn o bobl sy'n byw yno.
Caiff hyn ei ailadrodd mewn gwledydd ledled y byd wrth i'r aelod-wladwriaethau ailddatgan eu hymrwymiad i ddemocratiaeth, datblygiad a pharch at amrywiaeth.