Newyddion

Cau pedair siop arall mewn ymgyrch yn erbyn tybaco anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Tuesday 20th September 2022

Mae 16 o siopau sy'n rhan o werthu tybaco anghyfreithlon wedi cael gorchmynion cau eleni yn dilyn ymchwiliadau dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd. 

Yn y rownd ddiweddaraf o achos llys, derbyniodd pedair siop ychwanegol orchmynion cau ymddygiad gwrthgymdeithasol am dri mis a gyhoeddwyd gan ynadon Gwent ym mis Awst. 

  • Superstore, 141 Commercial Street (ar gau tan 10 Tachwedd 2022)
  • Jacobs, 61 Commercial Street (ar gau tan 11 Tachwedd 2022)
  • Maleek, 61 Commercial Road (ar gau tan 17 Tachwedd 2022)
  • Food Store, 155 Commercial Road (ar gau tan 30 Tachwedd 2022) 

Heriodd Food Store yn aflwyddiannus y dyfarniad gorchymyn cau ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Cafodd 12 o siopau orchmynion cau am dri mis gan ynadon yn gynharach eleni. (https://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/News/articles/2022/March-2022/Twelve-Newport-shops-closed-for-selling-illegal-tobacco.aspx

Amcangyfrifir y bydd cau'r cyfan wedi atal gwerthiant tybaco anghyfreithlon o dros £500,000. 

Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn tanseilio mesurau rheoli tybaco allweddol ac yn ariannu gweithgarwch troseddol mewn cymunedau lleol.  

Canfu arolwg gan Ash Cymru fod y farchnad dybaco anghyfreithlon yn cyfrif am 15% o'r holl werthiannau tybaco yng Nghymru, gyda mwy o achosion mewn cymunedau difreintiedig.  

Arweiniwyd yr ymchwiliadau gan dîm safonau masnach y cyngor a’u cefnogwyd gan Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ash Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Newport NOW, Tollau Tramor a Chartref EM, cynrychiolwyr o'r diwydiant tybaco a swyddogion Ymgyrch CeCe, tîm safonau masnach arbenigol sy'n mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon. 

Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth o ran unrhyw werthiannau tybaco anghyfreithlon i roi gwybod amdano, yn ddienw, drwy https://noifs-nobutts.co.uk/report-illegal-tobacco-in-wales

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.