Deuddeg o siopau Casnewydd wedi cael eu cau am werthu tybaco anghyfreithlon
Wedi ei bostio ar Friday 25th March 2022
Mae deuddeg o siopau Casnewydd, pob un yn gwerthu gwerth miloedd o bunnoedd o dybaco anghyfreithlon, wedi bod ar gau ers dechrau'r flwyddyn yn dilyn ymchwiliadau wedi'u targedu dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd.
Mae'r siopau, a restrir isod, wedi'u cau o dan orchmynion cau ymddygiad gwrthgymdeithasol tri mis a gyhoeddwyd gan Lys Ynadon Gwent:
Safleoedd
|
Cyfeiriad
|
Gorchymyn Cau yn Dod i Ben
|
Newport Mini Market
|
153 Chepstow Road, Casnewydd
|
19 Ebrill 2022
|
Caerleon Mini Market
|
153 Caerleon Road, Casnewydd
|
19 Ebrill 2022
|
Pill Mini Market
|
46 Commercial Street, Casnewydd
|
26 Ebrill 2022
|
Cromwell Store
|
43 Cromwell Road, Casnewydd
|
9 Mai 2022
|
NP Mini Market
|
7B Westgate Buildings, Casnewydd
|
11 Mai 2022
|
Nazar Mini Market
|
184-186 Corporation Road, Casnewydd
|
11 Mai 2022
|
F Mayberry
|
154 Commercial Street, Casnewydd
|
23 Mai 2022
|
International Supermarket
|
54 Commercial Street, Casnewydd
|
2 Mehefin 2022
|
Crystal Market
|
55 Commercial Street, Casnewydd
|
2 Mehefin 2022
|
Blue Fanta
|
424 Chepstow Road, Casnewydd
|
16 Mehefin 2022
|
Blue Fanta #1
|
10 Gloster Place, Casnewydd
|
16 Mehefin 2022
|
Corpa Mini Market
|
333 Corporation Road, Casnewydd
|
23 Mehefin 2022
|
Tîm safonau masnach y cyngor sy'n arwain yr ymchwiliadau i'r gwerthiannau tybaco anghyfreithlon. Cefnogwyd y tîm gan bartneriaid o Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ash Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Newport NOW, Tollau Tramor a Chartref EM, cynrychiolwyr o'r diwydiant tybaco a swyddogion Ymgyrch CeCe, tîm safonau masnach arbenigol sy'n mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon.
Amcangyfrifir y bydd y cau wedi atal gwerthiannau tybaco anghyfreithlon o tua £375,000.
Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn tanseilio mesurau rheoli tybaco allweddol ac yn ariannu gweithgarwch troseddol mewn cymunedau lleol. Canfu arolwg gan Ash Cymru fod y farchnad dybaco anghyfreithlon yn cyfrif am 15% o'r holl werthiannau tybaco yng Nghymru, gyda mwy o achosion mewn cymunedau difreintiedig.
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco anghyfreithlon i roi gwybod amdano, yn ddienw, drwy’r wefan: https://noifs-nobutts.co.uk/report-illegal-tobacco-in-wales/