Newyddion

Cynnydd o ran newid yn yr hinsawdd wedi ei nodi yn yr adroddiad blynyddol cyntaf

Wedi ei bostio ar Friday 14th October 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at ei nod o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Mae'r cynnydd yn cael ei nodi mewn adroddiad blynyddol rhagarweiniol ar gynllun newid yn yr hinsawdd sefydliadol y cyngor, gafodd ei gymeradwyo'r wythnos hon gan gabinet y cyngor.

Mae'r cynnydd sydd wedi ei amlygu yn cynnwys cynnydd yn nifer adeiladau'r cyngor sydd bellach yn defnyddio gwres adnewyddadwy yn hytrach na nwy, trydaneiddio fflyd y cyngor ymhellach, a datblygu cynllun ynni ardal leol i helpu i lunio sut rydym yn diwallu anghenion ynni'r ddinas yn y dyfodol mewn ffordd werddach a mwy cynaliadwy.

Mae'r adroddiad blynyddol rhagarweiniol hwn yn cwmpasu'r cyfnod deuddeg mis rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, cyn i'n cynllun newydd pum mlynedd ddod i rym ym mis Ebrill 2022. Mae'n nodi rhywfaint o'r gwaith da a wnaethom fel cyngor yn ystod y cyfnod hwnnw, gan ei fesur yn erbyn y themâu a'r blaenoriaethau cyflawni allweddol a nodir yn y cynllun.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau eraill:

  • Newid y ffordd rydym yn rheoli ein mannau gwyrdd a'n glaswelltiroedd er budd byd natur
  • Gwella bioamrywiaeth canol y ddinas trwy blannu mwy a gerddi dŵr glaw newydd
  • Gweithio i ymgorffori newid yn yr hinsawdd i'n cynllun corfforaethol newydd, fel ei fod wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud fel cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor: "Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno ein hadroddiad blynyddol rhagarweiniol ar gynllun newid yn yr hinsawdd ein sefydliad.

"Fel corff cyhoeddus o bwys, rydym yn cydnabod bod dyletswydd arnom i leihau ein hôl troed carbon. Dyna pam y gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol y llynedd, a pham y gwnaethom ddatblygu ein cynllun.

"Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud hyd yma, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn cymryd ein cyfrifoldeb i'n preswylwyr, a'n cymunedau, o ddifrif."

Ychwanegodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni ffordd bell i fynd i fod yn garbon niwtral, ond rydyn ni'n falch o'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yn llawn cyffro am y daith sydd i ddod.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn dangos hynny, ac yn ysbrydoli ein trigolion i gymryd pa bynnag gamau y gallant yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.