Newyddion

Sicrhau bod gofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi

Wedi ei bostio ar Tuesday 31st May 2022

Mae dros 6.5 miliwn o bobl yn y DU yn ofalwyr di-dâl ac mae'n debyg y bydd 3 o bob 5 ohonom yn ofalwyr di-dâl ar ryw adeg yn ein bywydau.   Gall fod yn hynod o foddhaus gofalu am anwyliaid ac mae gofalwyr di-dâl yn aml yn dweud eu bod ond yn cyflawni rôl gŵr, gwraig, mam, tad, merch, mab, ffrind neu gymydog da. 

Cynhelir Wythnos Gofalwyr eleni rhwng 6 a 12 Mehefin a bydd yn codi ymwybyddiaeth o werth gofalwyr di-dâl.   Ddydd Llun 6 Mehefin bydd y ganolfan ddinesig yn cael ei goleuo i gydnabod yr holl ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd.

Nid yw gofalu heb ei heriau ac mae'n bwysig bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi i gynnal eu lles eu hunain, gan eu galluogi i barhau i ofalu. 

Gofalwr di dâl yw rhywun sy'n gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog na allai ymdopi heb ei gymorth.   Gallai hyn fod oherwydd salwch, anabledd, salwch meddwl, iechyd, camddefnyddio sylweddau neu eiddilwch.  Gallant fod o unrhyw oedran - gallai gofalwyr ifanc ofalu am berthynas drwy helpu gyda choginio, glanhau, siopa neu ofalu am frodyr a chwiorydd, tra gallai gofalwyr hŷn ofalu am eu priod, perthynas neu ffrind.

Mae cysylltwyr cymunedol y cyngor yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd; gan gynnwys rhannu gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau cymorth lleol, yn ogystal â darparu gwybodaeth am fudiadau gwirfoddol a all helpu gofalwyr i ailgysylltu â'u cymuned.   

Ar ddydd Mercher 8 Mehefin byddant yn cynnal digwyddiad gwybodaeth i ofalwyr yn Theatr Glan yr Afon.  Dewch draw rhwng 10am ac 1pm i bori drwy stondinau a siarad â gweithwyr proffesiynol.  Mae'r stondinau'n cynnwys:  Gofalwyr Cymru, Sparkle, Age Cymru Gwent, tîm therapyddion galwedigaethol cymunedol y cyngor, Gofal a Thrwsio, Gofalwyr Ifanc Casnewydd, a llawer mwy. 

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 235650.  Gall gofalwyr hefyd ymuno â'r Rhwydwaith Gofalwyr i dderbyn newyddion a gwybodaeth reolaidd.

Ewch i www.newport.gov.uk/gofalwr i gael rhagor o wybodaeth neu edrychwch ar dudalen AskSARA Casnewydd.

More Information