Gwyliwch Ras Gyfnewid Baton y Gymanwlad
Wedi ei bostio ar Tuesday 28th June 2022
Ymunwch â ni yn Stadiwm Casnewydd ar 3 Gorffennaf i groesawu Ras Gyfnewid Baton y Gymanwlad y Frenhines i'n dinas.
Mae’r baton yn gwneud ei ffordd i Birmingham, dinas sy’n cynnal Gemau’r Gymanwlad 2022, a bydd wedi teithio 90,000 o filltiroedd o amgylch 72 o wledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad cyn gorffen ei daith yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.
Ddydd Sul 3 Gorffennaf, bydd y baton yn cyrraedd Stadiwm Casnewydd (Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd) a bydd yn cael ei gario o amgylch y trac gan sgowtiaid a geidiaid lleol. Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i wylio'r ras gyfnewid baton a fydd yn dechrau am 9.30am.
Bydd yn rhaid i'r sgowtiaid a'r geidiaid hefyd gael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, yn ogystal â datblygu eu profiad o wirfoddoli a rheoli digwyddiadau.