Newyddion

Dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 7th February 2022
queens_platinum_jubilee_welsh

Mae Casnewydd yn paratoi i nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau a fydd o fudd i'r ddinas gyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Mae hwn yn achlysur pwysig, ac rydym am annog dathlu ledled ein dinas.

"Fel dinas jiwbilî ein hunain, mae gennym sioe yn yr arfaeth, ond yn bwysig rydym am annog cymunedau i ddod at ei gilydd.

"I gefnogi hyn, rydym heddiw yn agor y broses ymgeisio i gau ffyrdd ar gyfer partïon stryd - rydym yma i helpu, ac rydym hefyd yn cynnig talu am rai o'r costau a all fod yn gysylltiedig â chau ffordd."

Partïon Stryd

Mae canllawiau ar sut i gynllunio parti stryd yn ddiogel ac, os oes angen, wneud cais am gau ffordd, ar gael www.newport.gov.uk

Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail diogelwch, addasrwydd cau’r ffordd a ffyrdd eraill sydd ar gau yn yr ardal, ond os cânt eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn talu am gost mesurau rheoli traffig priodol angenrheidiol (er enghraifft, arwyddion a chonau hanfodol).

Os nad yw parti stryd yn addas ar gyfer eich ardal neu os nad oes modd cau ffyrdd ynddi, mae syniadau eraill hefyd o ran sut y gallwch nodi'r achlysur yn eich cymuned.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau cychwynnol i gau ffyrdd yw 31 Mawrth, 2022. Yn dilyn adolygiad o'r ceisiadau a ddaw i law, gellir cyhoeddi cylch arall o gyflwyno ceisiadau.

Canopi Gwyrdd y Frenhines

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter plannu coed unigryw sy'n gwahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i ‘blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî’.

Yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth, bydd seremonïau plannu coed arbennig mewn pum ysgol yng Nghasnewydd. Dewiswyd ysgolion cynradd Maesglas, Alway, Gaer, Sain Silian a Llys Malpas gan iddynt ddathlu eu hagoriadau swyddogol yn yr un flwyddyn â choroni Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Bydd llyfryn coffa arbennig hefyd yn myfyrio ar yr ysgolion bryd hynny a heddiw.

Bydd holl ysgolion Casnewydd hefyd yn cael cyfle i blannu coeden yn rhan o'r fenter canopi gwyrdd.

Ym Mharc Tredegar, caiff rhodfa newydd â mwy o goed ei chreu er coffâd, gan greu gwell amgylchoedd ar hyd rhan o un o lwybrau beicio allweddol y dinasoedd.

Ffaglau Jiwbilî'r Frenhines

Mae Ffaglau’r Jiwbilî yn un o ddigwyddiadau swyddogol y Jiwbilî Blatinwm. Caiff miloedd o ffaglau eu goleuo gan gymunedau, elusennau a grwpiau ledled y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.

Ar nos Iau 2 Mehefin, caiff ffagl Casnewydd ei goleuo ar faes y Frenhines Elizabeth II, Ringland. Gwahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol i gydnabod gwasanaeth hir a dihunan y Frenhines. 

Llwybr y Ffagl

Bydd Casnewydd yn cymryd rhan mewn llwybr realiti estynedig wedi'i gynllunio'n arbennig a fydd yn creu cyffro ac yn codi ymwybyddiaeth yn y pedair wythnos cyn cynnau Ffagl y Jiwbilî.

Mae'r llwybr yn brofiad lle mae’r chwaraewyr yn ymweld â saith cymeriad sydd wedi dod yn fyw o Balas Buckingham i ymweld â lleoliadau o amgylch Casnewydd ar ddiwrnod allan.

Mae’r chwaraewyr, dan arweiniad Syr Barnaby Beacon, yn ymweld â phob cymeriad, gan ddysgu am ddegawd wahanol yn teyrnasiad 70 mlynedd Ei Mawrhydi ac yn 'dewis eu hantur eu hunain' wrth iddynt symud o amgylch y llwybr.

Cais am statws Arglwydd Faer

Mae Casnewydd wedi gwneud cais am statws Arglwydd Faer yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines. Disgwylir cyhoeddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Wrth i ni nesáu at ugeinfed pen-blwydd Casnewydd yn derbyn statws dinas, roeddem yn teimlo mai dyma’r adeg iawn i wneud cais bod ein dinesydd cyntaf yn cael y fraint o ddefnyddio teitl sy'n gweddu i'r statws hwnnw.

"Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth Arglwydd Raglaw Gwent ar gyfer ein cais a fydd, os bydd yn llwyddiannus, yn golygu mai ni fydd y drydedd ddinas yng Nghymru i gael statws Arglwydd Faeryddiaeth.

Bydd mwy o fanylion am y digwyddiadau a'r gweithgareddau cyffrous hyn a rhai eraill sy'n cael eu datblygu gan y Cyngor a'i bartneriaid ar hyn o bryd yn cael eu rhyddhau yn nes at yr amser.

Dywedodd y Cynghorydd Mudd "Rydym wedi cael dwy flynedd heriol iawn ac mae'r Jiwbilî yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd fel dinas ac yn ein cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu gyda phobl Casnewydd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.