Newyddion

Gwasanaeth cyngor yn cadarnhau achrediad sy'n ystyriol o ofalwr

Wedi ei bostio ar Thursday 11th August 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch bod gwasanaethau oedolion wedi derbyn achrediad datblygedig Sy'n Ystyriol o Ofalwyr yn swyddogol.

Roedd yn dilyn gwerthusiad o'r gefnogaeth oedd ar gael i ofalwyr di-dâl yn y ddinas gan banel annibynnol a ganfu fod "llawer ar gael".

Dywedodd y panel fod llawlyfr gofalwyr y cyngor a bwletinau Rhwydwaith Gofalwyr yn adnodd gwych sy’n galluogi pobl i gael gafael ar wybodaeth mewn un lle.

Cynhaliwyd seremoni cyflwyno yn y Caffi Gofalwyr rheolaidd ar yr 11 Awst, lle ymunodd yr aelodau cabinet dros wasanaethau cymdeithasol, y Cynghorydd Jason Hughes a'r Cynghorydd Stephen Marshall, yn ogystal â'r Cynghorydd Paul Cockeram, yr hyrwyddwr gofalwyr.

Mae'r cyngor yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl bwysig o fewn ein cymunedau, a'u bod wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi, eu gwrando arnynt a'u cefnogi o fewn ei wasanaethau.

Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae hyrwyddwr gofalwyr ac uwch hyrwyddwr gofalwyr wedi cael eu dewis ar gyfer ardal y gwasanaeth gwasanaethau i oedolion. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb penodol ar gyfer cefnogi gofalwyr ar draws y cyngor a byddant yn mynd ati i weithio i helpu cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd i ddeall yn ehangach pwy yw gofalwyr a'r problemau y gallent eu hwynebu.

Dywedodd y Cynghorydd Hughes: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cyflawni'r achrediad hwn ac mae'n deyrnged i waith caled staff a'r gwasanaethau a ddarperir i ofalwyr.

"O fewn ein gweithlu, rydym yn gwneud staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o'r problemau y mae gofalwyr yn eu hwynebu a'r cymorth sydd ar gael iddynt yn lleol.

"Mae gan lawer o'n gweithwyr rôl ofalgar y tu allan i'r gwaith ac rydym yn darparu cymuned ystyriol i gefnogi eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith."

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl, ewch i www.newport.gov.uk/carers

More Information