Diweddariad ar brosiect trawsnewid y Bont Gludo
Wedi ei bostio ar Thursday 9th December 2021
Hoffai Cyngor Dinas Caerdydd roi diweddariad i drigolion ar brosiect trawsnewid y Bont Gludo.
Mae’n bosib eich bod eisoes yn bod gwaith ar y prosiect wedi’i oedi. Mae hyn oherwydd y newyddion bod y ddau gontractwr a benodwyd wedi cael eu rhoi yn nwylo gweinyddwyr dros yr haf, oherwydd y pwysau yn y diwydiant yn sgil y pan demig.
Rydym yn rhagweld y bydd oedi pellach mewn cysylltiad â dechrau ar y prosiect, ond rydym yn gweithio gyda’n darpar gontractwyr newydd a phartneriaid cyllid i osgoi hynny cyn belled â phosibl.
Mae’r cyngor wedi defnyddio’r cyfnod hwn cyn dechrau’r gwaith i ymgynghori ymhellach â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid ynghylch y ganolfan ymwelwyr newydd, a pha gyfleusterau, digwyddiadau a nodweddion eraill yr hoffent i ni eu cynnig yma.
Rydym hefyd wedi parhau â’n rhaglen ymgysylltu, ac fel rhan o’r gwaith hwnnw byddwn yn creu cyfres o ddigwyddiadau cyffrous dros yr ychydig fisoedd nesaf. Dilynwch y bont ar gyfryngau cymdeithasol i gael mwy o ddiweddariadau.