Maethu preifat

Maethu preifat yw pan fydd plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed (neu 18 oed os oes ganddo anabledd) yn derbyn gofal am 28 diwrnod neu fwy gan rywun nad yw'n berthynas agos, gwarcheidwad neu berson â chyfrifoldeb rhiant (rhieni, llys-rieni, modrybedd, ewythredd a neiniau a theidiau).

Rhaid i chi roi gwybod i'r cyngor lleol yn ysgrifenedig, chwe wythnos cyn dechrau trefniant maethu preifat

Mae Deddf Plant 1989 yn dweud bod yn rhaid i ofalwyr maeth preifat, neu rieni plant sy'n cael gofal gan ofalwyr maeth preifat, roi gwybod i'r cyngor yn ysgrifenedig, chwe wythnos cyn dechrau trefniant maethu preifat oni bai bod y trefniadau wedi'u gwneud mewn argyfwng, pan fydd gennych 48 awr i ddweud wrth y cyngor.

Bydd ymwelwyr iechyd, meddygon ac athrawon yn rhoi gwybod i'r cyngor am drefniant maethu preifat os nad ydynt yn fodlon bod y gofalwr maethu preifat, neu riant y plentyn, wedi gwneud hynny.

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol ac yn dod i wybod am drefniant maethu preifat, mae gennych ddyletswydd i roi gwybod i ni.

Peidiwch â pheryglu diogelwch eich plentyn - mae rhoi gwybod yn helpu i gadw plant yn ddiogel

Pan fydd wedi cael gwybod, bydd y cyngor yn asesu'r trefniadau i wneud yn siwr bod anghenion y plentyn yn cael eu bodloni a bod aelodau'r cartref yn addas i ofalu am y plentyn.

Byddwn yn cadarnhau hefyd bod eich cartref yn ddiogel ac yn cynnal ymweliadau rheolaidd i wneud yn siwr bod popeth yn mynd yn iawn. 

العربية

 

عرض موقعنا على الانترنت باللغة العربية

Google

Polski

 

Widok naszej stronie internetowej w języku polskim

Google

اردو

 

اردو میں ہماری ویب سائٹ دیکھیں اور ان کا نظم کریں

Google

中国的

 

查看我们的网站在中国

Google