Eiddo gwag
Gall fod yn rhaid i berchenogion eiddo annomestig gwag dalu trethi eiddo gwag sy'n 100 y cant o'r rhwymedigaeth arferol.
Bydd y rhwymedigaeth yn dechrau ar ôl i'r eiddo fod yn wag am 3 mis, neu yn achos ffatrïoedd a warysau gwag, ar ôl 6 mis.
Mae rhai mathau o eiddo wedi'u heithrio o drethi eiddo gwag, gan gynnwys:
- y cyfnod eithrio cychwynnol o 3 neu 6 mis
- adeiladau rhestredig
- eiddo sydd wedi'i atal rhag cael ei feddiannu yn ôl y gyfraith
- eiddo â gwerth ardrethol islaw £2,200 o 01/04/2008 ymlaen
- eiddo â gwerth ardrethol islaw £15,000 o 01/04/2009 ymlaen
- eiddo â gwerth ardrethol islaw £18,000 o 01/04/2010 ymlaen
- eiddo â gwerth ardrethol islaw £2,600 o 01/04/2011 ymlaen
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2023/24
Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gynnig y cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys ar gyfer 2023-24.
Nod y cynllun yw rhoi cymorth i eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 75% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys, ond bydd y rhyddhad yn amodol ar uchafswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes.
Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y mae’n ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ardrethi annomestig - manwerthu, hamdden a lletygarwch ar gael i'w darllen yma
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Lleol Canol Dinas Cyngor Dinas Casnewydd 2023/24
Cynllun lleol yw hwn, a ariennir gan Gyngor Dinas Casnewydd, i ostwng ardrethi yng nghanol y ddinas i gynorthwyo busnesau presennol canol y ddinas ac annog mwy o feddiannaeth.
Nod y cynllun yw rhoi cymorth i eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 25% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Defnyddir y meini prawf canlynol i asesu cymhwysedd ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Canol Dinas Casnewydd.
Ar gyfer busnesau presennol:
- Rhaid i'r talwr ardrethi feddiannu eiddo a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig.
- Rhaid i'r eiddo fod wedi'i leoli yn ardal AGB canol dinas Casnewydd.
- Rhaid i'r eiddo fod â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai
- Rhaid bod gan y talwr ardrethi y caniatâd angenrheidiol i gynnal y busnes.
- Ni all yr eiddo gael ei feddiannu gan elusen neu sefydliad tebyg sy'n derbyn rhyddhad ardrethi gorfodol neu ddewisol.
- Rhaid i'r busnes sy'n cael ei gynnal o'r eiddo fod yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch fel y'i diffinnir gan gynllun rhyddhad ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru 2023-24.
- Ni ddylai'r busnes fod wedi derbyn mwy na £300k mewn cymorth gwladwriaethol ers mis Ionawr 2021 a rhaid iddo fod yn gymwys i hawlio'r rhyddhad hwn o dan y rheolau Symiau Bach o Gymorth.
Ar gyfer busnesau sy'n meddiannu eiddo a arferai fod yn wag:
Yr holl amodau fel uchod ynghyd â:
- Rhaid i'r talwr ardrethi fod yn berchen ar brydles fasnachol neu wedi llofnodi prydles fasnachol gydag o leiaf 12 mis yn weddill arni.
- Rhaid cael tystiolaeth bod y busnes yn masnachu, a bod rhent yn cael ei dalu.
- Rhaid i'r safle fod wedi bod yn wag ar ddechrau'r brydles.
- Ni ddyfernir rhyddhad nes bod yr eiddo wedi'i feddiannu a bod y cwmni’n masnachu.
- Yn achos busnes sy'n symud o un safle i'r llall yng nghanol y ddinas, dim ond os yw'r eiddo'n fwy a bod mwy o staff yn cael eu cyflogi y telir rhyddhad ar y safle newydd.
- Yn achos busnes newydd, rhaid darparu cynllun busnes manwl.
- Nid yw'r eiddo sy'n cael ei ddefnyddio yn rhy fawr i'r busnes sy'n cael ei gynnal.
Ym mhob achos, bydd y Cyngor yn cadw'r hawl i wrthod talu unrhyw geisiadau y mae'n ystyried eu bod wedi'u creu i fanteisio ar y cynllun.
Bydd y rhyddhad ardrethi yn dod i ben pan fydd un o'r canlynol yn digwydd:
- Mae'r busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu.
- Mae'r eiddo'n dod yn wag.
- Mae corff statudol yn cymryd camau sy'n atal y busnes rhag gweithredu.
Rhyddhad ardrethi busnesau bach
Cyflwynwyd cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018.
Busnesau cymwys
Mae'r cynllun yn caniatáu’r rhyddhad canlynol:
Adran A
- Mae'r rhan fwyaf o eiddo a feddiannir sydd â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai yn gymwys ar gyfer rhyddhad o 100% - golyga hyn na fyddwch yn talu ardrethi busnes ar yr eiddo hwnnw
- Mae cyfradd y rhyddhad yn gostwng o 100% i 0% yn achos eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i swyddfeydd post ac eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl ar gyfer gofal plant gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig fel yr eglurir isod.
Swyddfeydd post ac eiddo sy'n cynnwys swyddfeydd post
- Bydd y rhai gyda gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn derbyn 100% o ryddhad
- Bydd y rhai gyda gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn 50% o ryddhad
Adran B - adeiladau gofal plant cofrestredig
- Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi rhyddhad 100% o 1 Ebrill 2019 i safleoedd gofal plant cofrestredig a ddefnyddir at ddibenion gofal plant yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y rhyddhad hwn ar waith tan 1 Ebrill 2025.
Sut i wneud cais
Os oes gwerth ardrethol o hyd at £12,000 i'r eiddo rydych chi'n ei feddiannu ac mae'n dod o fewn Adran A uchod, caiff rhyddhad ardrethi busnesau bach ei gymhwyso'n awtomatig i'ch bil felly nid oes angen i chi wneud cais.
Os ydych chi'n credu bod yr eiddo rydych chi'n ei feddiannu yn bodloni'r meini prawf yn Adran B uchod, ac nad ydych wedi gwneud cais am ryddhad eto anfonwch e-bost at nndr@casnewydd.gov.uk.
Ardrethi busnesau bach i fusnesau lluosog
O 1 Ebrill 2018, mae newidiadau i reoliadau Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach i fusnesau lluosog.
Os yw trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig lleol (y rhestr leol), a bod yr eiddo hwnnw’n bodloni'r amodau gwerth ardrethol yn unig, dim ond rhyddhad am uchafswm o ddau eiddo o'r fath y bydd y trethdalwr yn ei gael.
Y nod yw caniatáu i ryddhad ardrethi gael ei dargedu i gefnogi busnesau bach a lleol yn hytrach na busnesau mwy neu gadwyni cenedlaethol.
O dan Erthygl 4 o'r rheoliadau, os yw trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi busnes am fwy na dau eiddo a ddangosir ar y rhestr Ardrethu Annomestig leol ym mhob ardal cyngor sy'n bodloni'r amodau gwerth ardrethol, rhaid i'r trethdalwr roi hysbysiad o'r eiddo hwnnw i'r cyngor cyn gynted â phosib.
Cyfrifoldeb y trethdalwr yw cynghori'r cyngor os ydynt ar hyn o bryd yn derbyn mwy na dau achos o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach am unrhyw eiddo y maent yn gyfrifol am dalu ardrethi busnes arnynt.
I adrodd am newid mewn amgylchiadau, anfonwch e-bost at nndr@newport.gov.uk
Elusennau
Mae gan elusennau cofrestredig a sefydliadau 'dielw' eraill hawl i gael rhyddhad gorfodol o 80% o'r cyfraddau ar unrhyw eiddo annomestig sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol.
Lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer Rhyddhad Gorfodol (pdf)
Gall sefydliadau nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad gorfodol wneud cais am ryddhad ardrethi dewisol trwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig gyda'r ffurflen gais.
Rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i elusennau
Gall rhai elusennau a sefydliadau dielw yng Nghasnewydd hawlio rhyddhad ardrethi o 100 y cant os ydyn nhw:
• Yng Nghasnewydd ac yn darparu gwasanaethau sy'n ategu gwaith y cyngor. Gallai hyn gynnwys elusennau sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, gwelliannau amgylcheddol ac ati.
• Yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sy'n darparu cyfleusterau yn ardal y cyngor.
• Yn darparu gwasanaeth sydd o fudd uniongyrchol i drigolion y ddinas ac yn lleddfu'r cyngor o'r angen i wneud hynny.
Ni fyddai unrhyw ryddhad ardrethi ychwanegol yn cael ei ystyried ar gyfer:
• Adeilad sy'n cael ei defnyddio fel siopau elusen.
• Eiddo gwag.
• Eiddo a feddiannwyd gan elusennau cenedlaethol
• Lle mae'r eiddo sydd wedi'i feddiannu yn ormodol o fawr.
Mae angen i unrhyw sefydliad sydd eisiau hawlio'r rhyddhad ardrethi ychwanegol gyflwyno eu cais yn ysgrifenedig i nndr@newport.gov.uk gan nodi pam y maent yn credu eu bod yn gymwys, pa wasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer trigolion y ddinas a darparu copi o'u cyfrifon diweddaraf.
Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC)
Os yw clwb chwaraeon wedi cofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel CASC ac yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion y clwb hwnnw neu glybiau cofrestredig eraill, mae ganddo hawl i gael rhyddhad gorfodol o 80 y cant.
Rhyddhad caledi
Gellir lleihau'r cyfraddau os dangosir y byddai trethdalwr yn dioddef caledi a bod gweithredu o'r fath er lles y gymuned.
Gwnewch gais ysgrifenedig i'r cyngor gyda thystiolaeth ategol.
Sylwch na ellir ystyried achos sy'n dibynnu'n unig ar ystyriaethau ariannol y trethdalwr - mae buddiannau'r gymuned hefyd yn berthnasol.
Lawrlwythwch Ardrethi lleol: polisi ar gyfer rhyddhad gorfodol a dewisol (pdf)
Cyswllt
E-bostiwch: nndr@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 851589
Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, De Cymru, NP20 4UR