Sut i Dalu

Cyfrifir Ardrethi Annomestig yn ddyddiol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 31 Mawrth a gellir eu talu'n llawn pan dderbynnir y bil ar ddechrau'r flwyddyn filio neu mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill i fis Ionawr.

Os cyfrifir bil talwr ardrethi ar ôl i'r flwyddyn filio ddechrau, yna gall nifer y rhandaliadau fod yn llai na deg, yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn.

Debyd Uniongyrchol

Y ffordd hawsaf o dalu - dim ciwio, dim costau postio, nid oes angen cofio talu.

Cofrestrwch gan ddefnyddio'r gwasanaeth sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein gyda'ch rhif cyfeirnod Ardrethi Busnes 8 digid a manylion cyfrif banc wrth law.

Neu lawrlwythwch a chwblhau fersiwn print o'r mandad Debyd Uniongyrchol (pdf)

Ar-lein

Bydd angen cerdyn debyd arnoch, e.e. Switch neu Delta, neu gerdyn credyd blaenllaw.

Mae mwy o fanylion a help i wneud taliadau fel hyn ar gael ar y dudalen Taliadau ar-lein.

Trosglwyddiad BACS

Gallwch hefyd dalu trwy drosglwyddiad banc.

Rhaid i chi gynnwys eich cyfeirnod ardrethi busnes 8 digid a ddangosir ar eich bil ac sy'n dechrau gydag 1.

Rhif cyfrif banc y cyngor yw 05070406 a'r cod didoli yw 09-07-20.

Ffôn

Talwch gyda cherdyn debyd neu gredyd drwy ffonio llinell dalu'r cyngor ar 01633 656656 - mae gwasanaeth awtomatig ar gael 24 awr y dydd.

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun, ffoniwch rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Sicrhewch fod eich rhif cyfeirnod ardrethi busnes 8 digid a’ch cerdyn debyd neu gredyd wrth law.

Arian parod, siec a cherdyn 

Talwch mewn person gydag arian parod mewn unrhyw siop sy’n cynnig gwasanaeth PayPoint yn y DU neu gydag arian parod, siec neu gerdyn mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y DU.  

Rhowch eich bil cod bar neu gerdyn i'r manwerthwr neu Swyddfa'r Post.

Dilynwch y ddolen i Fy Nghasnewydd a theipiwch eich cod post i mewn i ddod o hyd i'ch swyddfa bost agosaf a'ch siop PayPoint.  

Drwy’r post 

Postiwch eich siec gyda rhif cyfeirnod eich cyfrif a’ch cyfeiriad ar y cefn i:

Cyngor Dinas Casnewydd
Ardrethi Annomestig
Blwch Post 887
Casnewydd
NP20 9LW 

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post

Rhaid i chi bob amser ddyfynnu'r rhif cyfeirnod wyth digid a ddangosir ar gornel dde uchaf eich bil, sy’n dechrau gydag 1…..

Mae hyn yn helpu i sicrhau bod taliadau'n cael eu talu i mewn i'ch cyfrif yn gyflym.