Cwestiynau cyffredin

1. Pryd ddylwn i wneud cais am le meithrin neu le ysgol i’m plentyn?

Gall lle meithrin gael ei neilltuo i blentyn ym mis Medi’r flwyddyn academaidd pan y bydd y plentyn yn troi’n bedair oed.

Gall y lle hwn fod mewn ysgol, cylch chwarae neu feithrinfa ddydd breifat.

Pan fydd lle meithrin ym mis Medi wedi’i neilltuo, gallai’r plant sydd wedi’u geni rhwng 1 Medi a 31 Mawrth gael cynnig dechrau’n gynnar yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed, os bydd lleoedd ar gael – yr enw ar hyn yn gyffredin yw lleoedd i blant sy’n codi’n 3 oed.

Nid yw plant a aned rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i gael lle i blant sy’n codi’n 3 oed.

Cynigir derbyn i ysgolion a dosbarthiadau meithrin cymunedol am sesiwn hanner diwrnod, naill ai’r bore neu’r prynhawn, 5 niwrnod yr wythnos, a’r pennaeth sy’n gyfrifol am neilltuo sesiynau.

Darllenwch ragor ar y dudalen derbyn i ddarpariaeth feithrin

Mae plant yn dechrau’r ysgol yn y dosbarth derbyn yn y mis Medi sy’n dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Bydd angen i chi wneud cais am le ysgol eich plentyn yn ystod tymor yr hydref blaenorol.

Gallwch oedi adeg derbyn eich plentyn tan y tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 5 oed a gall y lle mewn dosbarth derbyn gael ei gadw i’ch plentyn.  

Fodd bynnag, ni allwch oedi mynediad y tu hwnt i ddechrau’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 5 oed, na thu hwnt i’r flwyddyn ysgol y gwnaethoch gais ar ei chyfer.

Nid yw mynychu dosbarth meithrin yn gwarantu lle mewn dosbarth derbyn oherwydd mae angen gwneud cais ar wahân ac ni fydd unrhyw flaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant sy’n mynychu’r dosbarth meithrin.

Mae plant yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ym mis Medi’r flwyddyn y byddant yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 12 oed.

Bydd angen i chi wneud cais am y trosglwyddiad hwn yn ystod tymor yr hydref blaenorol.

Nid yw mynychu ysgol gynradd benodol yn rhoi blaenoriaeth i’ch plentyn ar gyfer lle mewn ysgol uwchradd.

Mae hysbysiadau am yr amserlen dderbyn yn cael eu harddangos yn ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden Casnewydd yn ogystal ag ym Materion Casnewydd, sef cylchlythyr y cyngor, sy’n cael ei ddosbarthu i bob cartref yng Nghasnewydd.

Mae’r dyddiadau cau yn cael sylw hefyd ar gyfrifon y cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol a gallwch gofrestru i gael yr e-fwletin i breswylwyr Casnewydd

Chi fel rhiant sy’n gyfrifol am gadw llygad allan am yr hysbysiadau hyn a gwneud cais ar yr adeg briodol.

Bydd plant sy’n trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn cael llythyr drwy’r ysgol yn amlinellu’r broses ymgeisio.  

2. Pwy all wneud cais i blentyn gael ei dderbyn i ysgol neu drosglwyddo rhwng ysgolion?

Rhaid i'r cais gael ei wneud gan oedolyn â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn a rhaid i’r oedolyn gadarnhau bod ganddo’r cyfrifoldeb hwn fel rhan o’r cais. 

Disgwylir y bydd rhieni’n cytuno ar ba ysgolion y maen nhw’n eu ffafrio ar gyfer plentyn cyn gwneud cais.

Os na all y rhieni gytuno, bydd y cyngor yn derbyn cais gan y rhiant sy’n derbyn budd-dal plant ar gyfer y plentyn.

Ni all y cyngor ymyrryd mewn anghydfod rhwng rhieni ynghylch cais am ysgol a bydd yn gofyn i’r anghydfod gael ei ddatrys yn breifat.  

3. A allaf i gofrestru enw fy mhlentyn gydag ysgol benodol i gael blaenoriaeth?

Na allwch. Mae'r holl geisiadau sy'n cyrraedd erbyn y dyddiad cau perthnasol yn cael eu hystyried gyda'i gilydd ac ni roddir blaenoriaeth i’r ceisiadau sy’n cyrraedd gynharaf.  

Nid yw penaethiaid yn cymryd rhan yn y broses benderfynu o gwbl, nid oes ganddynt unrhyw ddylanwad ar ganlyniad cais ac maent yn cael eu hannog i beidio â chaniatáu i rieni ‘roi eu henw i lawr’ am le. 

4. Sut rydw i'n gwneud cais am le ysgol yng Nghasnewydd?

Gwnewch gais ar-lein am le ysgol yn unol â’r amserlen dderbyn.

Mae’n bwysig cyflwyno’ch cais cyn y dyddiad cau, oherwydd os bydd y cais yn hwyr, bydd hi’n fwy tebygol na chewch chi le yn yr ysgol rydych chi’n ei ffafrio.

I gael cyngor ar gwblhau eich cais, anfonwch e-bost i school.admissions@newport.gov.uk

5. A oes angen i mi wneud cais, hyd yn oed os rydw i’n byw yn y dalgylch neu mae gennyf blentyn hŷn yn yr ysgol?

Oes, rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn sydd angen lle mewn ysgol brif ffrwd.

Nid oes sicrwydd o le i'ch plentyn mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os dyna'r ysgol yn eich dalgylch neu mae eich plant eraill yn mynd i’r ysgol honno, er y bydd eich plentyn yn cael blaenoriaeth uwch.

Mae’r drefn flaenoriaeth wedi’i disgrifio yn y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf).

Chwiliwch am ysgol eich dalgylch a darllen amdani. 

6. Sut rydw i’n gwneud cais am le yn y chweched dosbarth?

Cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol i wneud cais am y chweched dosbarth. 

7. Sut byddaf i’n penderfynu ar ba ysgol i wneud cais amdani?

Ystyriwch p’un a ydych chi am i’ch plentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu addysg ffydd.

Darllenwch y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf) sy’n rhestru pob ysgol yng Nghasnewydd a darganfod pa ysgol yw ysgol eich dalgylch.

Hefyd, bydd angen i chi ystyried sut bydd eich plentyn y teithio i’r ysgol oherwydd ni fydd o reidrwydd yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol.

Edrychwch ar wefan Estyn i weld sut mae’r ysgolion yn perfformio.  

8. Pa ysgol yw ysgol fy nalgylch?

‘Dalgylch’ yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ardal ddaearyddol – bydd y plant sy’n byw yn y ddalgylch hon yn cael blaenoriaeth o ran eu derbyn i ysgol benodol, ond nid yw hyn yn gwarantu lle, serch hynny.

Er bod gan bob ysgol ddalgylch ddynodedig, gall rhieni ffafrio unrhyw ysgol i’w plentyn fynd iddi.

Bydd pob cyfeiriad yng Nghasnewydd o fewn dalgylch ysgol cyfrwng Cymraeg ac ysgol cyfrwng Saesneg.

Chwiliwch am ysgol dalgylch eich cyfeiriad. 

9. Beth os hoffwn i’m plentyn gael addysg ffydd?

Yng Nghasnewydd, mae addysg ffydd yn cael ei darparu drwy ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig.

Y cyngor sy'n ymdrin â cheisiadau ar gyfer derbyn i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas; y corff llywodraethol perthnasol sy'n gyfrifol am geisiadau ar gyfer derbyn i bob ysgol ffydd arall a dylid eu cyfeirio at y pennaeth.  

10. Beth os hoffwn i'm plentyn gael addysg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?

Mae tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd, bob un ohonynt gyda dosbarthiadau meithrin, ac un ysgol uwchradd.

Y Gymraeg yw iaith swyddogol yr ysgolion hyn ym mhob gweithgaredd, rhai ffurfiol ac anffurfiol.

Mae’r holl addysgu ac asesu, heblaw yn achos Saesneg fel pwnc, yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol.

Nid oes rhaid i ddisgyblion neu rieni sy’n dymuno addysg cyfrwng Cymraeg siarad Cymraeg yn rhugl i gael eu derbyn i ysgolion cyfrwng Cymraeg. 

11. A oes sicrwydd o le i mi yn yr ysgol rwyf yn ei dewis?

Nac oes, nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oes os dyma ysgol eich dalgylch.

Mewn sawl ardal yng Nghasnewydd, mae galw mawr am leoedd ysgol ac rydym ni’n cael mwy o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael – mae hyn yn golygu y bydd rhai ceisiadau’n cael eu gwrthod.

Mae’n bwysig nad ydych chi’n annog eich plentyn i feddwl y bydd lle ar gael iddo mewn unrhyw ysgol benodol cyn i chi gael eich penderfyniad. 

12. A ddylwn i wneud cais am fwy nag un ysgol?

Dylech. Ni all eich plentyn gael ei ystyried ar gyfer ysgol oni bai eich bod chi wedi gwneud cais amdani, felly dylech ystyried dewis o leiaf dair ysgol wahanol fel y bydd gennych fwy o obaith o gael lle rydych chi’n hapus ag ef.

Gallwch ofyn am gael lle arall wedi’i neilltuo i chi, yn yr ysgol agosaf sydd ar gael i chi.

Os byddwch yn dweud eich bod yn ffafrio ysgol i’ch plentyn, bydd yn cael blaenoriaeth dros blant y mae eu rhieni heb ddweud eu bod yn ffafrio ysgol.

Os penderfynwch chi beidio â rhoi ysgol eich dalgylch yn un o’ch dewisiadau, ond nid yw’r un o’ch dewisiadau yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn cael ei ystyried am le yn ysgol eich dalgylch os daw lleoedd ar gael yn unig.

Os bydd ysgol eich dalgylch yn llawn, gallai eich plentyn fod heb le ysgol i ddechrau.

Bydd pob plentyn sy’n byw yng Nghasnewydd yn cael lle mewn ysgol yn y pen draw, ond gallai’r lle fod mewn ysgol sy’n eithaf pell o’ch cartref.  

13. Pa dystiolaeth y mae angen i mi ei darparu i ategu fy nghais?

Mae angen tystiolaeth o’ch cyfeiriad cartref ar gyfer pob cais.

Mae angen tystiolaeth o ddyddiad geni’r plentyn ym mhob achos, heblaw pan fydd plentyn yn trosglwyddo o un ysgol yng Nghasnewydd i ysgol arall yng Nghasnewydd.  

Ni all ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno heb y dystiolaeth berthnasol gael eu prosesu a gallai hyn achosi oedi cyn y cewch chi’ch penderfyniad.

Mae manylion y dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu ar gael yn y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf).  

14. Mae fy mhlentyn yn byw mewn cyfeiriad gwahanol yn ystod yr wythnos; pa gyfeiriad ddylwn i ei roi ar y ffurflen gais?

Mae’r Cyngor yn ystyried mai cyfeiriad cartref eich plentyn yw’r man lle mae'r plentyn yn byw yn barhaol am fwyafrif yr wythnos ysgol, ar y dyddiad cau perthnasol.

Fel arfer, yr un fyddai'r cyfeiriad hwn â chyfeiriad y person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac sy'n brif ofalwr amdano, ac nid y cyfeiriad lle mae eich plentyn yn cael gofal gan berthnasau neu bobl eraill.

Pan fydd y plentyn y treulio'r un faint o amser gyda'r ddau riant mewn cyfeiriadau ar wahân, neu pan fydd anghydfod ynghylch y cyfeiriad cartref, ystyrir mai cartref y plentyn fydd man preswylio'r sawl sy'n derbyn Budd-dal Plant.  

15. Beth os byddaf yn symud tŷ yn ystod y broses gwneud cais?

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau – gan gynnwys newid cyfeiriad – ar ôl cyflwyno'ch cais.

Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn cael ei hanfon i’r cyfeiriad cywir yn unig ac ni fydd yn effeithio ar ganlyniad eich cais os byddwch yn symud ar ôl y dyddiad cau.

Gall unrhyw gyfeiriad newydd gael ei ystyried wrth benderfynu ar ganlyniad eich cais dim ond os byddwch yn byw yno ar y dyddiad cau a'ch bod yn darparu tystiolaeth o hynny.

Os byddwch chi’n symud i Gasnewydd neu o fewn Casnewydd, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd lle yn yr ysgol leol yn cael ei neilltuo i’ch plentyn.

Nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yw’n ysgol dalgylch, ac os bydd y grŵp blwyddyn perthnasol eisoes yn llawn, caiff eich cais ei wrthod.  

16. Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cyflwyno fy nghais?

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch gadarnhad awtomatig drwy'r e-bost cyn gynted ag y cyflwynir y cais.

Os na chewch y cadarnhad hwn, bydd angen i chi anfon e-bost i’r tîm derbyn i ysgolion cyn gynted â phosibl i gadarnhau p’un a yw’ch cais wedi'i gyflwyno'n llwyddiannus.

Ni all y cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau neu dystiolaeth sydd heb gael eu cyflwyno’n gywir trwy’r system ar-lein neu sydd wedi mynd ar goll yn y post. 

Pan fydd eich cais wedi cyrraedd, caiff ei asesu gyda phob cais arall a gyflwynir erbyn y dyddiad cau.  

17. Faint o amser y bydd hi'n ei gymryd i gael penderfyniad?

Byddwn yn rhoi canlyniad eich cais am le ysgol i chi ar y dyddiad cynnig perthnasol.

Bydd llythyron penderfyniadau’n cael eu danfon trwy’r post ail ddosbarth nid llai na thri diwrnod gwaith (gan gynnwys dydd Sadwrn) cyn y dyddiad cynnig.

Bydd ymgeiswyr sy’n dewis gwneud cais ar-lein yn sicr o gael e-bost yn cadarnhau’r penderfyniad ar eu cyfer ar y dyddiad cynnig.  

18. Sut bydd y penderfyniad yn cael ei wneud?

Byddwn yn ystyried faint o leoedd sydd ar gael ym mhob ysgol a faint o ddisgyblion sydd wedi gwneud cais i fynd i’r ysgol honno.

Pan fydd yr un nifer o geisiadau â lleoedd sydd ar gael, neu lai o geisiadau, bydd pob disgybl yn cael ei dderbyn.

Pan fydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn cymhwyso set o feini prawf i nodi pa ddisgyblion ddylai gael blaenoriaeth am le. Yr enw ar y rhain yw meini prawf gordanysgrifio ac maent i’w gweld yn y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf).  

19. Pa ddisgyblion sy’n cael blaenoriaeth?

a) Plant â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA): 

Bydd plant sydd â datganiad o AAA ac mae eu datganiad yn enwi ysgol benodol yn cael eu derbyn yn awtomatig i’r ysgol honno.

Os na chaiff ysgol ei henwi ar ddatganiad, ystyrir y gall unrhyw ysgol brif ffrwd ddarparu ar gyfer anghenion y plentyn, ni roddir blaenoriaeth benodol a bydd y cais yn cael ei ystyried yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio cytunedig.

Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i inclusion.enquiries@newport.gov.uk

b) Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant a Arferai Dderbyn Gofal:

Caiff ceisiadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (plant mewn gofal cyhoeddus) flaenoriaeth os bydd datganiad gan weithiwr cymdeithasol y plentyn yn ategu'r cais, yn amlinellu manteision y lleoliad ysgol.

Gall y flaenoriaeth hon gael ei rhoi i Blant a Arferai Dderbyn Gofal hefyd er, rhaid i'r sawl sy'n gwneud y cais ddarparu tystiolaeth i gadarnhau'r statws gofal blaenorol, fel tystysgrif mabwysiadu.

c) Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol:

Os cadarnheir bod plant yn byw yn nalgylch yr ysgol, byddant yn cael blaenoriaeth uwch na phlant sy'n byw'r tu allan i'r dalgylch pan fydd lleoedd ar gael.

d) Plant ag amgylchiadau meddygol neu blant sydd wedi’u rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant:

Bydd ceisiadau ar sail feddygol yn cael blaenoriaeth os bydd adroddiad ymgynghorydd meddygol yn eu hategu; rhaid i'r rhieni gael yr adroddiad hwn, sy'n pennu pa fantais feddygol sydd i'r plentyn fynd i'r ysgol sy'n cael ei ffafrio.

Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi dim ond os bydd lleoedd ar gael.

Nid yw adroddiadau gan feddygon teulu na gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cael eu derbyn at y diben hwn.

Os bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn argymell bod plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn cael lle mewn ysgol, rhoddir blaenoriaeth i’r plentyn os bydd lleoedd ar gael.

e)  Plant â brodyr a chwiorydd:

Os bydd gan blentyn frodyr/chwiorydd yn yr ysgol pan fydd yn ymuno â’r ysgol, bydd yn cael blaenoriaeth uwch na phlant heb frodyr/chwiorydd yno.

Nid yw hyn yn berthnasol i geisiadau meithrin. 

20. A yw lleoedd ysgol yn cael eu cadw'n ôl i blant sy'n symud i'r ardal?

Nac ydyn, mae'n rhaid i ni dderbyn disgyblion hyd at nifer y derbyniadau ac nid oes gennym yr hawl i neilltuo lleoedd na’u cadw yn ôl rhag ofn y bydd teuluoedd yn symud i'r ardal neu i unrhyw grŵp penodol o bobl.

Nid yw'n bosibl tynnu plentyn o ysgol os bydd plentyn â blaenoriaeth uwch yn ôl y meini prawf gordanysgrifio angen lle'n ddiweddarach.

Os ydych chi'n symud i Gasnewydd neu o fewn Casnewydd, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd lle'n cael ei neilltuo i'ch plentyn yn yr ysgol leol.

Nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yw yn eich dalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn ar gyfer grŵp blwyddyn eich plentyn, caiff eich cais ei wrthod.  

21. Beth sy'n digwydd os caiff lle yn yr ysgol neu'r ysgolion rwy'n eu ffafrio ei wrthod?

Pan na fyddwn yn gallu cynnig lle yn yr ysgol neu'r ysgolion rydych chi'n eu ffafrio o ganlyniad i gymhwyso'r meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig, ac rydych chi'n byw yng Nghasnewydd, bydd lle yn eich ysgol dalgylch yn cael ei gynnig i chi os bydd lleoedd ar gael.

Os na fydd eich ysgol dalgylch ar gael, byddwn yn dweud wrthych am yr ysgolion sydd â lleoedd ac yn gofyn i chi roi dewisiadau ychwanegol i’w hystyried.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus ac nid ydych yn byw yng Nghasnewydd, byddai’n ddoeth i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol cartref i gael ysgol arall neu gyflwyno dewisiadau ychwanegol ar gyfer ysgolion eraill yng Nghasnewydd.

Pan fydd cais ar gyfer yr ysgol sy'n cael ei ffafrio yn aflwyddiannus, bydd yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn yn cael ei gynnig i chi – nid oes hawl apelio ar gael ar gyfer derbyniadau meithrin.

Bydd enw’ch plentyn yn cael ei ychwanegu at y rhestr aros ar gyfer lleoedd a wrthodir mewn ysgol sy’n cael ei ffafrio.

Os daw lleoedd ar gael, bydd yr holl blant ar y rhestr aros yn cael eu hystyried ynghyd ar gyfer y lleoedd ac yn cael eu blaenoriaethu yn unol â’r polisi derbyn i ysgolion.

Nid yw rhestri aros yn rhoi blaenoriaeth i blant ar sail dyddiad ychwanegu'r cais at y rhestr ac nid yw cynnwys enw plentyn ar restr aros yn gwarantu y daw lle ar gael ymhen hir a hwyr.

Bydd enw'ch plentyn yn cael ei gadw ar y rhestr aros hon am gyfnod sy'n cael ei gadarnhau yn eich llythyr penderfyniad. 

22. A allaf i ddarganfod safle fy mhlentyn ar y rhestr aros?

Nid ydym yn rhoi'r rhestr aros mewn trefn hyd nes daw lle ar gael yn y grŵp blwyddyn perthnasol, felly bydd safle’ch plentyn ar y rhestr yn cael ei roi fel awgrym yn unig, os gwnewch gais am hynny.  

23. Sut mae’r broses apelau’n gweithio?

Os bydd y cais ar gyfer yr ysgol rydych chi’n ei ffafrio yn aflwyddiannus, cewch gynnig yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn (nid oes hawl apelio ar gyfer derbyniadau meithrin).

Bydd ffurflen apelio’n cael ei hamgáu gyda’ch llythyr penderfyniad a dylech ei dychwelyd i bennaeth y gyfraith a rheoleiddio’r cyngor erbyn y dyddiad a roddir er mwyn datgan eich bwriad i apelio.

Yna, cewch ddyddiad ac amser gwrandawiad eich apêl, sy’n cael ei chynnal yn y Ganolfan Ddinesig fel arfer.

Cewch wahoddiad i fod yn bresennol, i wrando ar achos y cyngor dros wrthod lle; bydd yr achos yn cael ei gyflwyno i banel annibynnol o dri pherson sydd heb unrhyw gysylltiad â'r ysgol dan sylw na'r cyngor.

Bydd gwrandawiad yr apêl mor anffurfiol â phosibl, ond os byddwch o'r farn bod arnoch angen rhywfaint o gyngor ar sut i gyflwyno'ch achos, dylech gael cyngor yn annibynnol.

Mae hyn yn fater i bob unigolyn ond i lawer o rieni, nid ydynt o'r farn bod angen gwneud hyn.

Ni all swyddogion drafod rhinweddau achos rhiant, gan ei fod yn fater i'r panel yn unig.

Wrth gyflwyno apêl, rydych yn dadlau achos i'ch plentyn fynychu ysgol benodol a dylai'r achos gael ei seilio ar y rhesymau pam y dylai'ch plentyn fynd i'r ysgol benodol honno.

Os hoffech ddewis ysgol arall rydych chi'n ei ffafrio yn lle'r un a neilltuwyd i'ch plentyn, cysylltwch â'r tîm derbyn i ysgolion.

Ym mhob apêl yn ymwneud â derbyniadau i ysgolion, mae penderfyniad y panel yn derfynol ac yn rhwymo pob parti.

Gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio i gŵynion ysgrifenedig am gamweinyddu gan banel apelau derbyn.

Mae camweinyddu yn ymwneud â materion fel methu gweithredu'n annibynnol ac yn deg, yn hytrach na chwynion pan fydd unigolyn yn teimlo bod y penderfyniad a wnaed yn anghywir yn unig.

Y llysoedd yn unig all newid penderfyniad panel apêl, pan fydd yr apelydd neu'r awdurdod derbyn yn gwneud cais llwyddiannus am Adolygiad Barnwrol o'r penderfyniad hwnnw.  

24. Beth ddylwn i ei wneud os rwyf am drosglwyddo fy mhlentyn i ysgol arall? 

Mae angen ystyried newid ysgol yn ofalus iawn, oherwydd nid dyma'r ateb bob tro a gall gael effaith niweidiol ar addysg eich plentyn.

Os byddwch chi'n ystyried gwneud cais i drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, dylech drafod eich opsiynau gydag ysgol bresennol eich plentyn yn y lle cyntaf.

Gall fod rhesymau addysgol cadarn dros beidio â throsglwyddo a bydd angen i chi ystyried y rhain.

Cyn penderfynu gwneud cais am le mewn ysgol arall, bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol, oherwydd ni fyddwch o reidrwydd yn gymwys i gael cymorth â theithio, hyd yn oed os oeddech chi'n arfer bod yn gymwys.

Ble bynnag y bo'n bosibl, ni ddylech dynnu'ch plentyn o'i ysgol bresennol hyd nes bod lle arall addas ar gael.

Bydd diffyg presenoldeb yn cael ei gofnodi'n absenoldeb anawdurdodedig a gallai'r swyddog lles addysg gael ei hysbysu am hynny.

Ni fydd trosglwyddo ysgol yn ymyrryd ag unrhyw gamau mae'r gwasanaeth lles addysg eisoes yn eu cymryd.

Mae’r cyngor yn annog pobl i beidio â gwneud ceisiadau am drosglwyddiadau yn ystod naill ai Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11, oherwydd efallai na fydd yr ysgol rydych chi’n gwneud cais amdani’n gallu darparu ar gyfer opsiynau pwnc TGAU eich plentyn ac mae hyn yn debygol o gael effaith niweidiol ar ei ddysgu.

Os ydych yn dymuno newid ysgolion gan eich bod yn symud i Gasnewydd neu o fewn Casnewydd, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd lle'n cael ei neilltuo i'ch plentyn yn yr ysgol leol.

Nid oes sicrwydd o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os bydd yn eich dalgylch, ac os bydd grŵp blwyddyn eich plentyn eisoes yn llawn mewn ysgol, caiff eich cais ei wrthod.

Darllen rhagor a gwneud cais am drosglwyddo ysgol

25. Os byddaf am fynd ar wyliau estynedig am fwy na phedair wythnos, a fydd lle fy mhlentyn yn yr ysgol yn cael ei dynnu'n ôl?

Bydd angen i chi siarad â phennaeth eich plentyn os ydych chi'n bwriadu cymryd gwyliau yn ystod y tymor, gan fod pob corff llywodraethol wedi cytuno ar brotocol ar gyfer hyn.

Os bydd cais am wyliau estynedig yn cael ei gymeradwyo ac nid yw'ch plentyn yn dychwelyd i'r ysgol erbyn y dyddiad cytunedig, bydd mewn perygl o golli ei le ysgol.

Bydd methu dychwelyd ar y dyddiad cytunedig yn achosi pryderon o ran lles - gellid ystyried bod plentyn neu berson ifanc sy'n mynd ar goll o addysg mewn perygl o gael niwed difrifol.

Bydd unrhyw bryderon o'r fath yn cael eu cyfeirio ar unwaith at yr awdurdodau statudol i'w hystyried.  

26. A all fy mhlentyn gael ei symud i fyny neu i lawr blwyddyn?

Rydym yn disgwyl i blant gael eu haddysgu yn eu grŵp blwyddyn, oni bai bod amgylchiadau arbennig, er enghraifft plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu blant sydd wedi dioddef problemau neu golli rhan o flwyddyn, yn aml oherwydd salwch.

Pan fydd amgylchiadau eithriadol, bydd cais gan rieni am i'r plentyn gael ei dderbyn y tu allan i'r grŵp oedran arferol yn cael ei ystyried.

Fodd bynnag, nid oes hawl apelio os caiff lle ei gynnig, ond nid yn y grŵp blwyddyn mae'r rhieni'n ei ddymuno.

Ni fydd eich plentyn yn cael ei dderbyn i unrhyw grŵp blwyddyn y tu hwnt i'w oedran cronolegol dim ond oherwydd bod ei grŵp blwyddyn cywir yn llawn. 

27. A allaf i addysgu fy mhlentyn gartref?

Yr enw cyffredin ar hyn fel arfer yw addysg ddewisol yn y cartref ac mae gan rieni'r hawl i addysgu eu plant gartref, ar yr amod eu bod yn cyflawni gofynion adran 7 Deddf Addysg 1996.

Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar rieni pob plentyn o oed ysgol gorfodol i sicrhau bod y plentyn yn cael addysg amser llawn effeithlon sy'n addas i'w oedran, ei allu a’i ddawn, ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo, naill ai drwy fynychu'r ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Os yw'ch plentyn yn mynd i'r ysgol ar hyn o bryd ac rydych chi'n penderfynu rhoi addysg ddewisol iddo yn y cartref, dylech ysgrifennu i'r ysgol yn gofyn am dynnu enw'ch plentyn o gofrestr yr ysgol.

Sylwch, ni fydd rhieni'n cael adnoddau nac arweiniad ar addysgu a'r cwricwlwm gan y cyngor ar ôl penderfynu tynnu'r plentyn o'r ysgol.  

28. Pwy sy'n gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol?

Mae cludiant o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu am ddim i ddisgyblion oed cynradd sy’n byw ddwy filltir neu fwy o ysgol eu dalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael ac i ddisgyblion oed uwchradd sy’n byw dair milltir neu fwy o ysgol eu dalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael – mae hyn yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Yn ogystal, mae'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn datgan bod plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol, i ysgol arall, os yw'r ysgol honno yn agosach na'r ysgol yn y dalgylch ac ar yr amod bod y plentyn yn bodloni'r pellter cymhwyso.

Mae gan bob ysgol ddalgylch dynodedig ond gall rhieni ffafrio unrhyw ysgol i'w plentyn fynychu.

Os byddwch yn dewis anfon eich plentyn i ysgol heblaw am ysgol eich dalgylch neu’r ysgol agosaf, chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau a threfniadau cludiant.

Os bydd cais am yr ysgol rydych chi'n ei ffafrio yn aflwyddiannus, byddwch chi'n gymwys i gael cymorth â chludiant dim ond os bydd eich plentyn yn mynd i'r ysgol yn y dalgylch yn lle hynny neu'r ysgol agosaf nesaf sydd ar gael, yn ôl derbyniadau ysgolion, ac os byddwch yn bodloni'r meini prawf pellter.