Siopau

Mosaic of Newport Market florist

Mae siopa yng Nghasnewydd wedi ei ganoli ar Friars Walk, Commercial Street, High Street, Canolfan Kingsway a Marchnad Casnewydd, lle dewch o hyd i enwau’r stryd fawr, gwerthwyr annibynnol lleol, masnachwyr, caffis a siopau coffi.

Mae Casnewydd yn ddinas Masnach Deg gyda siopau a chaffis yn cynnig o leiaf ddau o nwyddau a fasnachwyd yn deg. 

Mae Newport Shopmobility wedi ei leoli yn 193 Upper Dock Street ac mae ar agor rhwng 9.15am a 5.00pm, ffoniwch (01633) 673845 am fanylion. 

Caerllion

Mae Canolfan Gelf a Chrefft Ffwrwm ar y stryd fawr, Caerllion, ar agor drwy’r flwyddyn ac ynddi ceir detholiad o siopau bach ar gyfer anrhegion.

Mae dewis da o dafarndai, caffis a thai bwyta yng Nghaerllion.