Pam lleoli yng Nghasnewydd?

Mae cysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a môr ardderchog yn golygu mynediad hawdd i farchnadoedd a dinasoedd mawr, gyda Llundain dim ond 90 munud i ffwrdd ar y trên.

Mae cymaint o resymau pam fod Casnewydd yn lleoliad perffaith i'ch busnes

Mae gan fusnesau Casnewydd fynediad i bron i hanner miliwn o bobl economaidd-weithredol o fewn 30 munud o daith car i'r ddinas a 1.6 miliwn o bobl o fewn awr o daith car.  

Mae’r gyfradd cadw staff yn uwch na chyfartaledd y DU ac mae gofod swyddfa a chostau cyflog hyd at 40% yn is na Llundain.

Mae Casnewydd yn dod yn Ddinas Band Eang Cyflym Iawn trwy fuddsoddiad gwerth sawl miliwn mewn cysylltedd band eang a digidol.

Mae Casnewydd yn trawsnewid drwy raglen adfywio werth £2 biliwn, sy’n cynnig cyfleoedd busnes sylweddol. 

Gall Casnewydd gynnig y canlynol i fusnesau:

Pwy sydd yma?

Mae gan Gasnewydd record dda o ddenu buddsoddiad, gwrandewch ar y cwmnïau sydd eisoes wedi lleoli yng Nghasnewydd, gan gynnwys SPTS, Gocompare, Celtic Manor ac eraill. 

Cyswllt

Datblygu Economaidd, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, De Cymru NP20 4UR 

Ymholiadau cefnogi busnes: [email protected]

Ffoniwch (01633) 233598 neu (01633) 233600 i drafod eich anghenion.