Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn annog pobl o bob oed ledled y ddinas i fyw, dysgu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth bynnag fo’ch oedran a’ch gallu, mae cyfle i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghasnewydd ar unrhyw adeg o’ch bywyd.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn cynnal digwyddiadau i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn ceisio cynyddu defnydd o’r Gymraeg gan blant ac oedolion ledled Casnewydd.
Y blynyddoedd cynnar
Mae Mudiad Meithrin yn darparu gofal ac addysg y blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg ledled Casnewydd, yn amrywio o Gylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin, meithrinfeydd dydd, a grwpiau dechrau’n deg.
Chwiliwch am eich grŵp agosaf yng Nghasnewydd
Ysgolion
Gall rhieni a gofalwyr fynegi dymuniad i anfon eu plentyn i ysgol Gymraeg, er nad yw hyn yn golygu y bydd lle yn eu hysgol dewis cyntaf yn cael ei warantu.
Nid oes rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg i ddewis addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn.
Darllenwch am wneud cais am le mewn ysgol yng Nghasnewydd
Plant 4-11 oed
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal tair ysgol gynradd Gymraeg yn y ddinas.
Pobl ifanc 11-18 oed
Agorodd ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Casnewydd, sef Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, ar 1 Medi 2016 mewn lleoliad dros dro ar gyfer disgyblion blwyddyn 7.
Bydd yr ysgol yn symud i’w safle parhaol ym mis Medi 2018 ac yn ehangu bob blwyddyn hyd nes y bydd yn gwbl weithredol.
Darllenwch am addysg Gymraeg yng Nghasnewydd
Ymwelwch â gwefan Ysgol Gyfun Gwent Is Coed .
Ôl-16
Gellir astudio rhai modiwlau o gyrsiau dethol yn ddwyieithog yng Ngholeg Gwent.
Mae’r coleg hefyd yn cynnig cyfleoedd i astudio’r Gymraeg fel ail iaith, cymorth astudio Cymraeg a dwyieithog trwy HWB Cymraeg a gweithgareddau cymdeithasol trwy’r Clwb Cymraeg.
Oedolion
Mae Coleg Gwent yn cynnig cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gyfer pob cam dysgu a gallu.
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau i’w hastudio yn Gymraeg.