Polisi preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd  hwn yn ymwneud â gwefan Cyngor Casnewydd (www.newport.gov.uk) ac nid yw’n berthnasol i wefannau allanol y mae modd cysylltu â nhw o’r wefan.

Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn cipio a storio unrhyw wybodaeth bersonol am ymwelwyr â’r wefan, ac eithrio pan fo manylion yn cael eu rhoi’n wirfoddol drwy e-bost, neu trwy ddefnyddio ffurflen electronig, neu wrth wneud ymholiad ynghylch ein gwasanaethau.

Yn yr achosion hyn, ni chaiff y wybodaeth a rowch i Gyngor Dinas Casnewydd ond ei defnyddio i roi’r wybodaeth y gofynnoch amdani i chi.

Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol i sefydliadau a/neu unigolion allanol oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd penodol.

Diogelu data

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, yn caniatáu i ni ddal a phrosesu gwybodaeth bersonol.

Fe fyddwn ond yn defnyddio’r cyfryw wybodaeth ag a ganiateir gan y Ddeddf.

Darllenwch ein datganiad GDPR a’n polisi preifatrwydd

Cwcis

Beth yw cwci?

Ffeil destun fach yw cwci sy'n cael ei rhoi ar eich cyfrifiadur neu ffôn clyfar pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan.

Beth mae cwcis yn ei wneud?

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn defnyddio cwcis i wella ein gwefan, ei gwneud i weithio'n fwy effeithlon a rhoi'r profiad gorau i ddefnyddwyr. Mae rhai cwcis hefyd yn rhoi gwybodaeth i ni megis niferoedd ymwelwyr a data perfformiad. Rydym wedi categoreiddio ein defnydd o gwcis isod;

Cwcis Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn hanfodol i'ch galluogi i bori ein gwefan a defnyddio ein nodweddion. Ni allwch optio allan o ddefnyddio'r cwcis hyn oherwydd hebddynt, ni fyddai ein gwefan yn gweithio. Mae'r tabl isod yn esbonio'r cwcis hanfodol a ddefnyddiwn a'u diben.

 

Cwcis Dadansoddeg a Pherfformiad

Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan, er enghraifft, pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw fwyaf.  Defnyddir y data hwn i optimeiddio ein tudalennau gwefan a'u gwneud yn haws eu llywio.  Mae'r cwcis hyn yn casglu data mewn modd na all adnabod unrhyw un yn uniongyrchol, fodd bynnag, maent yn ddewisol ac mae angen eich caniatâd arnom i'w defnyddio ar eich dyfais. Mae'r tabl isod yn egluro’r cwcis dadansoddeg a pherfformiad a ddefnyddiwn a'u diben.

 

Cwcis a osodir gan wefannau Trydydd Parti

I gefnogi ein gwefann, rydyn ni weithiau’n defnyddio lluniau a fideos o wefannau fel YouTube a Twitter.  O ganlyniad, pan fyddwch yn ymweld â thudalen gyda'r cynnwys hwn wedi'i ymgorffori, efallai y byddwch yn cael cwcis o'r gwefannau hyn. Nid yw Cyngor Casnewydd yn rheoli lledaenu'r cwcis hyn. Dylech wirio’r wefan trydydd parti berthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.