Dinas ddigidol

Stock digital image (2) 

Strategaeth Ddigidol

Mae'r Strategaeth Ddigidol hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer sut y byddwn yn defnyddio technoleg i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau, cefnogi gwella lles preswylwyr, gwella sgiliau digidol ein preswylwyr a galluogi busnesau i ffynnu yng Nghasnewydd.

Mae'r strategaeth hon yn dangos ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i wneud Casnewydd yn ddinas uchelgeisiol a thecach i'w phreswylwyr a'i busnesau.

Mae'r strategaeth hefyd yn hanfodol i wneud Casnewydd yn ddinas ddata. Dyna pam rydym am sicrhau y gall dinasyddion gael mynediad at wasanaethau digidol, a ddarperir gan y cyngor a'i bartneriaid strategol, pan fyddant ei angen fwyaf.

Gallwch ddarganfod mwy a’i ddarllen yn llawn ar ein tudalen Strategaeth Ddigidol.

Cynhwysiant Digidol

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ennill Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol, a ddyfarnwyd gan Cymunedau Digidol Cymru.  

Mae'r Siarter Cynhwysiant Digidol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy'n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol ac yn helpu pobl i fynd ar-lein. 

Mae'r achrediad yn gweithredu tan fis Ionawr 2024 - darllen mwy

Wi-fi am ddim yng Nghasnewydd

I breswylwyr ac ymwelwyr

Mae wi-fi am ddim mewn dros 50 o adeiladau cyhoeddus, ar fysus Casnewydd, yn y gorsafoedd trên a bws, ym marchnad Casnewydd ac ar strydoedd canol y ddinas.  

Mae’r symbol Wi-Fi Gyfeillgar yn helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i ddod o hyd i leoliadau lle mae’r wi-fi wedi’i addasu i geisio blocio deunyddiau amhriodol, cynllun achrededig gyda Chyngor y DU dros Ddiogelwch Ar-lein i Blant.

Gall preswylwyr ac ymwelwyr gael mynediad at Gwmwl Cymunedol Casnewydd a Chysylltiad Dinas Casnewydd o unrhyw ddyfais ddi-wifr.

I fusnesau

Gall band eang cyflym iawn fod yn ddefnyddiol i fusnesau o bob maint drwy eu galluogi nhw i gyfathrebu’n well gyda chwsmeriaid, trosglwyddo data’n gynt a gweithredu’n fwy effeithlon. 

Gweld sut mae busnesau lleol wedi defnyddio band eang cyflym

Adnoddau

Lawrlwythwch Strategaeth Ddigidol Casnewydd (pdf)

Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd – Wi-Fi Cyhoeddus (pdf)